Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1094 (Cy. 260)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

27 Medi 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

28 Medi 2021

Yn dod i rym

29 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad(2).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Medi 2021.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

2.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Hydref 2021” rhodder “1 Ionawr 2022”;

(b)ym mharagraff (6)—

(i)hepgorer is-baragraff (1)(c);

(ii)yn is-baragraff (2) hepgorer “ac (c)”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

27 Medi 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio diffygion yn Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ymadael â’r UE. Mae rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn newid y dyddiad y mae’r gofynion hysbysu trosiannol ymlaen llaw ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn gymwys ohono o 1 Hydref 2021 i 1 Ionawr 2022 ac i ddileu’r gofyniad i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid ddod gyda’r dystysgrif iechyd briodol ar gyfer mewnforion trydydd gwledydd cyn diwedd y cyfnod graddoli trosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), a pharagraff 53(2) o Ran 2 o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriadau yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd rheoliad 26(3) gan reoliad 19 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Mewnosodwyd Atodlen 5 gan reoliad 32 o O.S. 2020/1612 (Cy. 337). Diwygiwyd paragraffau 5(3) a 6(1)(c) o Atodlen 5 gan reoliad 2 o O.S. 2021/384 (Cy. 122). Diwygiwyd rheoliad 26(3) a pharagraffau 5(3) a 6(1)(c) o Atodlen 5 gan O.S. 2021/847 (Cy. 197). Mae offerynnau diwygio eraill, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.