xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CDiwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 2LL+C

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli cyffredinol)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle’r diffiniad o “gwlad neu diriogaeth esempt” rhodder—

ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” (“exempt country or territory”) yw gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin, ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” (“non-exempt country or territory”) i’w ddehongli yn unol â hynny;;

(b)ym mharagraff (4), hepgorer “(o fewn ystyr rheoliad 9(1))”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 3 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 2ALL+C

4.—(1Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3)(c)—

(a)ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;

(b)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

neu

(iv)tystysgrif brechlyn,.

(3Ym mharagraff (7), yn lle “paragraffau (3) a (6)” rhodder “paragraff (3)”.

(4Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) At ddibenion paragraff (3), pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.

(7B) At ddibenion paragraff (6), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw.

(5Ym mharagraff (8), yn lle “cael”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “cwblhau”.

(6Ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8A) At ddibenion paragraff (6), pan fo P wedi cael dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(7Ym mharagraff (10)—

(a)yn lle’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” rhodder—

ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a awdurdodwyd—

(a)

mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—

(i)

i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(ii)

gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(2);

(b)

mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11), i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

(c)

mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), yn unol â pharagraff (a);;

(b)yn lle’r diffiniad o “awdurdodiad marchnata” rhodder—

ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—

(a)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) (dehongli cyffredinol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(b)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11) ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;;

(c)yn lle’r diffiniad o “gwlad berthnasol” rhodder—

ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad neu diriogaeth a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11) neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (12);;

(d)yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “tystysgrif brechlyn” (“vaccine certificate”) yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys gwlad berthnasol sy’n cynnwys—

(a)

enw llawn P;

(b)

dyddiad geni P;

(c)

enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae P wedi ei gael;

(d)

y dyddiad y cafodd P bob dos o’r brechlyn;

(e)

manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau.

(8Yn y tabl ym mharagraff (11), yn y lle priodol—

(a)yn y golofn gyntaf (y wlad berthnasol), mewnosoder “Awstralia” ac yn yr ail golofn (y rheoleiddiwr perthnasol) ar yr un rhes, mewnosoder “Y Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig”;

(b)yn y golofn gyntaf (y wlad berthnasol), mewnosoder “Canada” ac yn yr ail golofn (y rheoleiddiwr perthnasol), mewnosoder “Iechyd Canada”.

(9Ar ôl paragraff (11) mewnosoder—

(12) Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 4 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6ALL+C

5.  Yn rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol)—

(a)ym mharagraff (4)(d), yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl paragraff (4)(d) mewnosoder—

(e)person sy’n deithiwr rheoliad 2A.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 5 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 6ABLL+C

6.  Yn lle rheoliad 6AB(2)(d)(ii) rhodder—

(ii)mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 6 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 1CLL+C

7.  Yn Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru)—

(a)ym mharagraff 1ZA(1) (profion diwrnod 2: gofynion o ran darparwr prawf preifat), ar ôl paragraff (l) mewnosoder—

(la)pan—

(i)bo sampl i’w dilyniannu yn unol â pharagraff (l), a

(ii)bo’r dilyniannu i ddigwydd mewn labordy (“y labordy dilyniannu”) ac eithrio’r labordy y proseswyd y sampl ynddo yn y lle cyntaf (“y labordy diagnostig”),

pan fo’n sicrhau bod y labordy dilyniannu yn cael y sampl heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r labordy diagnostig ddod i wybod am ganlyniad y prosesu cychwynnol;;

(b)ym mharagraff 2ZA(1) (profion diwrnod 8: gofynion o ran darparwr prawf preifat), ar ôl paragraff (h) mewnosoder—

(ha)pan—

(i)bo sampl i’w dilyniannu yn unol â pharagraff (h), a

(ii)bo’r dilyniannu i ddigwydd mewn labordy (“y labordy dilyniannu”) ac eithrio’r labordy y proseswyd y sampl ynddo yn y lle cyntaf (“y labordy diagnostig”),

pan fo’n sicrhau bod y labordy dilyniannu yn cael y sampl heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r labordy diagnostig ddod i wybod am ganlyniad y prosesu cychwynnol;.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 7 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Hepgor Atodlen 3LL+C

8.  Hepgorer Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 8 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i Atodlen 4LL+C

9.  Yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig), ar y diwedd mewnosoder—

Saethu Targedau: Pencampwriaethau Agored Dryll Aer Cymru

Badminton: Pencampwriaethau Badminton Rhyngwladol Cymru VICTOR

Gymnasteg: Pencampwriaethau Gogledd Ewrop.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 9 mewn grym ar 4.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)