NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (ׅ“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol, o 47 i 49, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 52 i 56.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, Plas Madog, a Rhosymedre a Chefn Bychan yng nghymuned Cefn. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Acre-fair a Phen-y-bryn, Cefn, a Rhosymedre a Chefn Bychan o gymuned Cefn.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gogledd Ponciau, De Ponciau a Rhos yng nghymuned Rhosllannerchrugog. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Johnstown, De Ponciau a Rhos o gymuned Rhosllannerchrugog.
Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Bryn-teg, Bryn Cefn, New Broughton a Gwenfro yng nghymuned Broughton. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Bryn Cefn, Bryn-teg a Gwenfro o gymuned Broughton.
Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Gwersyllt a Dwyrain Gwersyllt yng nghymuned Gwersyllt. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Gwersyllt, De Gwersyllt a Gorllewin Gwersyllt o gymuned Gwersyllt.
Mae erthygl 12 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Whitegate, Smithfield a Wynnstay yng nghymuned Parc Caia. Mae erthygl 13 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng cymunedau Abenbury a Pharc Caia. Mae erthygl 14 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Wynnstay o gymuned Parc Caia.
Mae erthygl 15 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Erddig, Offa, a Brynffynnon yng nghymuned Offa. Mae erthygl 16 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Hermitage ac Offa o gymuned Offa.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “12” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol) a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.