NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 42 i 34 a lleihau nifer yr aelodau o 64 i 60.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Pontardawe a Threbanos yn nhref Pontardawe.

Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol Canol Gorllewin a Chanol Dwyrain tref Coed-ffranc, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer tref Coed-ffranc.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Dyffryn Clydach a Blaenhonddan, ac i’r trefniadau etholiadol ar gyfer cymuned Blaenhonddan.

Mae erthygl 9 yn diddymu cymuned Glyncorrwg, ac yn creu cymunedau newydd Gwynfi a Chroeserw, a Chymer a Glyncorrwg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “5” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.