NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan gynnwys estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau yn ogystal â rhaglen frechu’r Cenhedloedd Unedig, a gwneud diwygiadau technegol pellach.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n ymwneud â’r dystiolaeth y caniateir ei darparu o brofion cyn ymadael.

Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu amrywiol wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.