2021 Rhif 1138 (Cy. 275)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Chwefror 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny heb addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongliI1I21

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20224.

4

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;

  • mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2

Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro MorgannwgI3I42

1

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

2

Mae Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg wedi ei rhannu’n 24 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

3

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

4

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

5

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Annotations:
Commencement Information
I3

Ergl. 2 mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4

Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

I5I6YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 2

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. mewn grym ar 13.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6

Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Baruc

Baruc

Ward Baruc o dref y Barri

3

Buttrills

Buttrills

Ward Buttrills o dref y Barri

2

Cadoc

Cadog

Ward Cadog o dref y Barri

4

Castleland

Castleland

Ward Castleland o dref y Barri

2

Cornerswell

Cornerswell

Ward Cornerswell o dref Penarth

2

Court

Court

Ward Court o dref y Barri

2

Cowbridge

Y Bont-faen

Tref y Bont-faen gyda Llanfleiddan, a chymuned Pen-llin

3

Dinas Powys

Dinas Powys

Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll

4

Dyfan

Dyfan

Ward Dyfan o dref y Barri

2

Gibbonsdown

Gibbonsdown

Ward Gibbonsdown o dref y Barri

2

Illtyd

Illtud

Ward Illtud o dref y Barri

3

Llandough

Llandochau

Cymuned Llandochau

1

Llandow

Llandŵ

Cymunedau Tregolwyn, Llandŵ, a Llan-gan

1

Llantwit Major

Llanilltud Fawr

Tref Llanilltud Fawr, a chymuned Llan-faes

4

Peterston-super-Ely

Llanbedr-y-fro

Cymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, a Llanddunwyd

1

Plymouth

Plymouth

Ward Plymouth o dref Penarth

2

Rhoose

Y Rhws

Cymuned y Rhws

3

St Athan

Sain Tathan

Cymuned Sain Tathan

2

St Bride’s Major

Saint-y-brid

Cymunedau Ewenni, Saint-y-brid, Sain Dunwyd, a’r Wig

2

St Nicholas and Llancarfan

Sain Nicolas a Llancarfan

Cymunedau Llancarfan, Sain Nicolas a Thresimwn, a Sain Siorys

1

St Augustine’s

St Augustine’s

Ward St Augustine’s o dref Penarth

3

Stanwell

Stanwell

Ward Stanwell o dref Penarth

2

Sully

Sili

Cymuned Sili

2

Wenvoe

Gwenfô

Cymuned Gwenfô

1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Chwefror 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 23 i 24, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 47 i 54.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, heb addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn cyflwyno Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer y wardiau etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.