2021 Rhif 1139 (Cy. 276)
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021
Gwnaed
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2018 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021.
2
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
3
At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20224.
4
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen2
1
Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Torfaen, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
2
Mae Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ei rhannu’n 18 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
3
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
4
Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
5
Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.
YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Abersychan | Abersychan | Cymuned Abersychan | 3 |
Blaenavon | Blaenafon | Cymuned Blaenafon | 3 |
Coed Eva | Coed Efa | Ward Coed Efa o gymuned Fairwater | 1 |
Croesyceiliog | Croesyceiliog | Cymuned Croesyceiliog | 2 |
Fairwater | Fairwater | Wardiau Fairwater a Thŷ-canol o gymuned Fairwater | 2 |
Greenmeadow | Greenmeadow | Ward Greenmeadow o gymuned Fairwater | 1 |
Llanfrechfa and Ponthir | Llanfrechfa a Phont-hir | Cymuned Pont-hir a ward Dwyrain Llanyrafon o gymuned Llanyrafon | 1 |
Llantarnam | Llantarnam | Cymuned Llantarnam a ward Southville o gymuned Canol Cwmbrân | 3 |
Llanyrafon | Llanyrafon | Ward Gorllewin Llanyrafon o gymuned Llanyrafon | 1 |
New Inn | New Inn | Cymuned New Inn | 3 |
Panteg | Pant-teg | Cymuned Pant-teg | 3 |
Pontnewydd | Pontnewydd | Cymuned Pontnewydd a ward Northville o gymuned Canol Cwmbrân | 3 |
Pontnewynydd and Snatchwood | Pontnewynydd a Snatchwood | Wardiau Pontnewynydd a Snatchwood o gymuned Pen Transh | 2 |
Pontypool Fawr | Pont-y-pŵl Fawr | Cymuned Pont-y-moel a ward Waunfelin o gymuned Pen Transh | 3 |
St. Dials | St. Dials | Ward St. Dials o gymuned Canol Cwmbrân | 2 |
Trevethin and Penygarn | Trefddyn a Phen-y-garn | Cymuned Trefddyn | 2 |
Two Locks | Two Locks | Cymuned Henllys a ward Two Locks o gymuned Canol Cwmbrân | 3 |
Upper Cwmbran | Cwmbrân Uchaf | Cymuned Cwmbrân Uchaf | 2 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)