Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2018 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Torfaen. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 24 i 18, a lleihau nifer y cynghorwyr o 44 i 40.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.