xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1159 (Cy. 284)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

18 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Ddinbych.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Ddinbych;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir DdinbychLL+C

2.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Ddinbych, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Ddinbych wedi ei rhannu’n 29 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2021

Erthygl 2

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Alyn ValleyDyffryn AlunCymunedau Llanarmon-yn-Iâl a Llandegla1
BodelwyddanBodelwyddanCymuned Bodelwyddan1
Denbigh Caledfryn HenllanDinbych Caledfryn HenllanCymuned Henllan a wardiau Canol Dinbych a Dinbych Uchaf o gymuned Dinbych3
Denbigh LowerDinbych IsafWard Dinbych Isaf o gymuned Dinbych2
DyserthDyserthCymuned Dyserth1
EdeirnionEdeirnionCymunedau Cynwyd, Llandrillo a Chorwen2
EfenechdydEfenechdydCymunedau Betws Gwerful Goch, Clocaenog, Derwen ac Efenechdyd1
LlandyrnogLlandyrnogCymunedau Aberchwiler, Llandyrnog a Llanynys1
Llanfair Dyffryn Clwyd GwyddelwernLlanfair Dyffryn Clwyd GwyddelwernCymunedau Bryneglwys, Gwyddelwern, Llanelidan a Llanfair Dyffryn Clwyd1
LlangollenLlangollenCymunedau Llangollen a Llandysilio-yn-Iâl2
Llanrhaeadr-yng-NghinmeirchLlanrhaeadr-yng-NghinmeirchCymunedau Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a Nantglyn1
Moel FamauMoel FamauCymunedau Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanferres a Llangynhafal1
Prestatyn CentralCanol PrestatynWard Canol Prestatyn o gymuned Prestatyn2
Prestatyn EastDwyrain PrestatynWard Dwyrain Prestatyn o gymuned Prestatyn2
Prestatyn MelidenPrestatyn AlltmelydWard Alltmelyd o gymuned Prestatyn1
Prestatyn NorthGogledd PrestatynWard Gogledd Prestatyn a Gogledd-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn3
Prestatyn South WestDe-orllewin PrestatynWard De-orllewin Prestatyn o gymuned Prestatyn2
RhuddlanRhuddlanCymuned Rhuddlan2
Rhyl EastDwyrain y RhylWardiau Brynhedydd a Phlastirion o gymuned y Rhyl2
Rhyl SouthDe’r RhylWard Derwen o gymuned y Rhyl2
Rhyl South WestDe-orllewin y RhylWardiau Cefndy a Phendyffryn o gymuned y Rhyl2
Rhyl TrellewelynY Rhyl TrellewelynWard Trellewelyn o gymuned y Rhyl2
Rhyl Tŷ NewyddY Rhyl Tŷ NewyddWard Tŷ Newydd o gymuned y Rhyl2
Rhyl WestGorllewin y RhylWardiau Bodfor a Foryd o gymuned y Rhyl2
RuthinRhuthunCymuned Rhuthun3
St Asaph EastDwyrain LlanelwyWard Dwyrain Llanelwy o gymuned Llanelwy1
St Asaph WestGorllewin LlanelwyWard Gorllewin Llanelwy o gymuned Llanelwy1
TrefnantTrefnantCymunedau Cefnmeiriadog a Threfnant1
TremeirchionTremeirchionCymunedau Bodfari, Cwm, Tremeirchion a’r Waun1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Ddinbych. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 30 i 29, a chynyddu nifer y cynghorwyr o 47 i 48.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Ddinbych ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Ddinbych.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.