Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
18 Hydref 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Tachwedd 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Caerdydd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
2.—(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Sir Caerdydd wedi ei rhannu’n 28 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2021
Erthygl 2
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Adamsdown | Adamsdown | Cymuned Adamsdown | 2 |
Butetown | Butetown | Cymuned Butetown | 3 |
Caerau | Caerau | Cymuned Caerau | 2 |
Canton | Treganna | Cymuned Treganna | 3 |
Cathays | Cathays | Cymunedau Cathays a’r Castell | 4 |
Cyncoed | Cyncoed | Cymuned Cyncoed | 3 |
Ely | Trelái | Cymuned Trelái | 3 |
Fairwater | Y Tyllgoed | Cymuned y Tyllgoed | 3 |
Gabalfa | Gabalfa | Cymuned Gabalfa | 2 |
Grangetown | Grangetown | Cymuned Grangetown | 4 |
Heath | Y Mynydd Bychan | Cymuned y Mynydd Bychan | 3 |
Lisvane and Thornhill | Llys-faen a’r Ddraenen | Cymunedau Llys-faen a’r Ddraenen | 3 |
Llandaff | Llandaf | Cymuned Llandaf | 2 |
Llandaff North | Ystum Taf | Cymuned Ystum Taf | 2 |
Llanishen | Llanisien | Cymuned Llanisien | 2 |
Llanrumney | Llanrhymni | Cymuned Llanrhymni | 3 |
Pentwyn | Pentwyn | Cymunedau Llanedern a Phentwyn | 3 |
Pentyrch and St Fagans | Pentyrch a Sain Ffagan | Cymunedau Pentyrch a Sain Ffagan | 3 |
Penylan | Pen-y-lan | Cymuned Pen-y-lan | 3 |
Plasnewydd | Plasnewydd | Cymuned y Rhath | 4 |
Pontprennau and Old St Mellons | Pontprennau a Phentref Llaneirwg | Cymunedau Pontprennau a Phentref Llaneirwg | 2 |
Radyr | Radur | Cymuned Radur a Phentre-poeth | 2 |
Rhiwbina | Rhiwbeina | Cymuned Rhiwbeina | 3 |
Riverside | Glanyrafon | Cymunedau Pontcanna a Glanyrafon | 3 |
Rumney | Tredelerch | Cymuned Tredelerch | 2 |
Splott | Y Sblot | Cymunedau’r Sblot a Thremorfa | 3 |
Trowbridge | Trowbridge | Cymuned Trowbridge | 3 |
Whitchurch and Tongwynlais | Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais | Cymunedau’r Eglwys Newydd a Thongwynlais | 4 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Sir Caerdydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 29 i 28, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 75 i 79.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.