2021 Rhif 1161 (Cy. 286)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ebrill 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynI1I21

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2

Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliI3I42

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;

  • mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

  • pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

  • mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau GwentI5I63

1

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

2

Mae Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi ei rhannu’n 14 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

3

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

4

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

5

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Annotations:
Commencement Information
I5

Ergl. 3 mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6

Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Dileu cymuned Cendl, a chreu cymunedau Cendl a GarnlydanI7I84

1

Mae cymuned Cendl, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei dileu.

2

Mae’r cymunedau a ganlyn wedi eu creu—

a

cymuned Cendl a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

b

cymuned Garnlydan a ddangosir â llinellau ar Fap 2.

Annotations:
Commencement Information
I7

Ergl. 4 mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8

Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

I9I10YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. mewn grym ar 20.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10

Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Abertillery and Six Bells

Abertyleri a Six Bells

Wardiau Abertyleri a Six Bells o gymuned Abertyleri

3

Beaufort

Cendl

Cymunedau Cendl a Badminton

3

Blaina

Blaenau

Ward Blaenau o gymuned Nant-y-glo a Blaenau

2

Brynmawr

Bryn-mawr

Cymuned Bryn-mawr

3

Cwm

Cwm

Cymuned Cwm

2

Cwmtillery

Cwmtyleri

Ward Cwmtyleri o gymuned Abertyleri

2

Ebbw Vale North

Gogledd Glynebwy

Cymuned Gogledd Glynebwy

2

Ebbw Vale South

De Glynebwy

Cymuned De Glynebwy

2

Georgetown

Georgetown

Ward Georgetown o gymuned Tredegar

2

Llanhilleth

Llanhiledd

Cymuned Llanhiledd

2

Nantyglo

Nant-y-glo

Ward Nant-y-glo o gymuned Nant-y-glo a Blaenau

2

Rassau and Garnlydan

Rasa a Garnlydan

Cymunedau Rasa a Garnlydan

2

Sirhowy

Sirhywi

Ward Sirhywi o gymuned Tredegar

3

Tredegar

Tredegar

Ward Canol Tredegar a Gorllewin Tredegar o gymuned Tredegar

3

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Ebrill 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 16 i 14, a lleihau nifer y cynghorwyr o 42 i 33.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae erthygl 4 yn diddymu cymuned bresennol Cendl, ac yn creu cymunedau newydd Cendl a Garnlydan.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.