Search Legislation

Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd: cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiad drafft

4.—(1Ni chaiff Gweinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb partneriaeth dreftadaeth oni bai eu bod wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o gytundeb partneriaeth dreftadaeth presennol er mwyn—

(a)darparu bod y cytundeb yn ymwneud â heneb gofrestredig ychwanegol, neu

(b)estyn hyd y cytundeb.

(3Ni chaniateir gwneud yr amrywiad oni bai—

(a)yn achos amrywiad a gynigir gan barti heblaw am Weinidogion Cymru, bod y parti hwnnw wedi anfon copi o’r amrywiad drafft at Weinidogion Cymru, a

(b)mewn unrhyw achos, bod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at y canlynol—

(i)perchennog yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;

(ii)unrhyw feddiannydd i’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig;

(iii)unrhyw awdurdod lleol y lleolir yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;

(iv)unrhyw awdurdod lleol sy’n warcheidwad i’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig (yn rhinwedd adran 12 neu 15 o Ddeddf 1979), a

(b)gwahodd sylwadau gan y personau hynny cyn diwedd cyfnod a bennir yn y gwahoddiad.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn drwy ddulliau electronig am o leiaf 21 o ddiwrnodau—

(i)cyfeiriad neu leoliad yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;

(ii)crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft;

(iii)manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau am y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft i Weinidogion Cymru;

(iv)y cyfnod y mae rhaid i’r sylwadau gael eu cyflwyno,

(b)anfon yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (a) at unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo fuddiant yn y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, ac eithrio person yr anfonwyd y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ato o dan baragraff (4), ac

(c)os gofynnir iddynt wneud hynny cyn diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y paragraff hwn, anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft at y person a wnaeth y cais.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfnodau ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y rheoliad hwn yn gyfnodau o ddim llai na 21 o ddiwrnodau gan ddechrau—

(a)yn achos paragraff (4), â’r diwrnod y caiff copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) ei anfon gyntaf o dan y paragraff hwnnw, a

(b)yn achos paragraff (5), â’r diwrnod y caiff yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a) o’r paragraff hwnnw ei chyhoeddi’n electronig am y tro cyntaf.

(7Nid oes dim yn y rheoliad hwn na rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi neu anfon at unrhyw berson wybodaeth—

(a)sy’n gyfrinach fasnach,

(b)y mae ei datgelu yn debygol fel arall o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson,

(c)y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu

(d)y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, neu o dan unrhyw ddeddfiad, neu gan orchymyn llys.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod lleol” yw—

(a)mewn perthynas â henebion cofrestredig a thir cysylltiedig yng Nghymru—

(i)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, a

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n awdurdod cynllunio lleol;

(b)mewn perthynas â thir cysylltiedig yn Lloegr, cyngor sir neu gyngor dosbarth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources