xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 13
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. mewn grym ar 1.1.2022, gweler rhl. 1
Y ddarpariaeth yn Neddf 1990 | Y datgymhwysiad neu’r addasiad a gymhwysir at ddibenion darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn |
---|---|
Adran 18 (cyfyngu hyd cydsyniad adeilad rhestredig) | Nid yw’r adran yn gymwys. |
Adran 19 (cais am amrywio neu ollwng amodau) | Nid yw’r adran yn gymwys. |
Adran 31 (darpariaethau cyffredinol ynghylch digollediad am ddibrisiant) | Mae adran 31 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at adran 28 yn gyfeiriadau at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
Adran 62 (dilysrwydd gorchmynion a phenderfyniadau penodol) | Mae adran 62 yn gymwys fel pe bai yn is-adran (1)(a)— (a) y cyfeiriad at adran 23 yn gyfeiriad at reoliad 9 o’r Rheoliadau hyn, a (b) y cyfeiriad at adran 26 yn gyfeiriad at reoliad 10 o’r Rheoliadau hyn. |
Adran 63 (achos i amau dilysrwydd gorchmynion, penderfyniadau a chyfarwyddydau eraill) | Mae adran 63 yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3A)(a), yr isod yn cael ei roi yn lle paragraffau (a) a (b)— “(a)in the case of an application relating to an order under regulation 9 of the Listed Buildings (Heritage Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2021, the date on which the order is confirmed; (b)in the case of an application relating to an order under regulation 10 of the Listed Buildings (Heritage Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2021, the date on which the order is made;”. |
Adran 86 (eiddo eglwysig) | Mae adran 86 yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (3), y cyfeiriad at adran 29 yn gyfeiriad at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
Adran 88 (hawliau mynediad) | Mae adran 88 yn gymwys fel pe bai— (a) yn is-adran (2)(a), cyfeiriadau at yr adrannau a ganlyn yn Neddf 1990 yn gyfeiriadau at y rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn— (i) adran 23 – at reoliad 9; (ii) adran 26 – at reoliad 10, a (b) yn is-adran (4), y cyfeiriad at adran 28 yn gyfeiriad at reoliad 12 o’r Rheoliadau hyn. |
Adran 90 (darpariaethau ariannol) | Mae adran 90 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at yr adrannau a ganlyn yn gyfeiriadau at y rheoliadau a ganlyn yn y Rheoliadau hyn— (a) adran 16(2) – at reoliad 7, (b) adran 24 – at reoliad 11, (c) adran 26 – at reoliad 10, a (d) adran 28 – at reoliad 12. |