2021 Rhif 1180 (Cy. 291)
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2021.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2; y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin3, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE;
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir2
1
Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
2
Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2020, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
3
Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2019 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
a
yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
b
y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2020, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
YR ATODLENUnedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net
colofn 1 | colofn 2 | colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) | |
1. Da byw | |||
Buchod godro | buwch | 587.00 | |
Buchod bridio cig eidion: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | buwch | -174.00 |
ar dir arall | buwch | -239.00 | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | -178.00(1) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 99.00(1) | |
Mamogiaid: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | mamog | -31.00 |
ar dir arall | mamog | -0.50 | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 5.00 | |
Moch: | hychod a banwesod torrog | hwch neu fanwes | 304.00 |
moch porc | y pen | 9.70 | |
moch torri | y pen | 13.10 | |
moch bacwn | y pen | 15.70 | |
Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 3.80 |
brwyliaid | aderyn | 0.40 | |
cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.70 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 7.70 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 144.00 | |
Ffa | hectar | 179.00 | |
Rêp had olew | hectar | 83.00 | |
Pys sych | hectar | 550.00 | |
Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 3,690.00 |
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 3,390.00 | |
Betys siwgr | hectar | 410.00 | |
Gwenith | hectar | 260.00 | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | |||
Ffrwythau’r berllan | hectar | 3,170.00 | |
Ffrwythau meddal | hectar | 15,370.00 | |
4. Hectarau cymwys | |||
Tir a oedd, yn 2019, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 | tir dan anfantais ddifrifol | hectar | 125.71 |
tir dan anfantais | hectar | 125.34 | |
pob tir arall | hectar | 46.09 | |
(1) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)