2021 Rhif 1181 (Cy. 292)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru1, yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 20132 (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynI1I21

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.

2

At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

3

At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.

Annotations:
Commencement Information
I1

Ergl. 1 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2

Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliI3I42

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19764;

  • ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

  • os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

  • mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol ConwyI5I63

1

Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

2

Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei rhannu’n 30 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

3

Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

4

Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

5

Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19725.

Annotations:
Commencement Information
I5

Ergl. 3 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6

Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn: newidiadau i ffiniau cymunedolI7I84

Mae’r rhan o gymuned Bae Colwyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandrillo-yn-Rhos, ac yn ffurfio rhan o ward Rhos o gymuned Llandrillo-yn-Rhos.

Annotations:
Commencement Information
I7

Ergl. 4 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8

Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

I9I10YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Erthygl 3

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10

Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)

Colofn (2)

Colofn (3)

Colofn (4)

Enw Saesneg y ward etholiadol

Enw Cymraeg y ward etholiadol

Ardal y ward etholiadol

Nifer aelodau’r cyngor

Betws-yn-Rhos

Betws-yn-Rhos

Cymunedau Betws-yn-Rhos a Llanfair Talhaearn

1

Betws-y-Coed and Trefriw

Betws-y-coed a Threfriw

Cymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan a Threfriw

1

Bryn

Bryn

Wardiau Bryn a Lafan o gymuned Llanfairfechan

1

Caerhun

Caerhun

Cymunedau Caerhun, Dolgarrog a Henryd

1

Colwyn

Colwyn

Ward Colwyn o gymuned Hen Golwyn

2

Conwy

Conwy

Wardiau Aberconwy a Chastell o gymuned Conwy

2

Craig-y-don

Craig-y-don

Ward Craig-y-don o gymuned Llandudno

2

Deganwy

Deganwy

Ward Deganwy o gymuned Conwy

2

Eglwys-bach a Llangernyw

Eglwys-bach a Llangernyw

Cymunedau Eglwys-bach a Llangernyw

1

Eirias

Eirias

Ward Eirias o gymuned Hen Golwyn

2

Gele and Llanddulas

Gele a Llanddulas

Wardiau Gele a Llansansiôr o gymuned Abergele a chymuned Llanddulas a Rhyd-y-foel

3

Glyn

Glyn

Ward Glyn o gymuned Bae Colwyn

2

Glyn y Marl

Glyn y Marl

Wardiau Marl a Phen-sarn o gymuned Conwy

3

Gogarth Mostyn

Gogarth Mostyn

Wardiau Gogarth a Mostyn o gymuned Llandudno

3

Kinmel Bay

Bae Cinmel

Ward Bae Cinmel o gymuned Bae Cinmel a Thywyn

3

Llandrillo-yn-Rhos

Llandrillo-yn-Rhos

Cymuned Llandrillo-yn-Rhos

4

Llanrwst a Llanddoged

Llanrwst a Llanddoged

Cymunedau Llanrwst, a Llanddoged a Maenan

2

Llansanffraid

Llansanffraid

Cymuned Llansanffraid Glan Conwy

1

Llansannan

Llansannan

Cymunedau Llansannan a Llannefydd

1

Llysfaen

Llysfaen

Cymuned Llysfaen

1

Mochdre

Mochdre

Cymuned Mochdre

1

Pandy

Pandy

Ward Pandy o gymuned Llanfairfechan

1

Penmaenmawr

Penmaenmawr

Cymuned Penmaenmawr

2

Penrhyn

Penrhyn

Ward Penrhyn o gymuned Llandudno

2

Pen-sarn Pentre Mawr

Pen-sarn Pentre Mawr

Wardiau Pen-sarn (Abergele) a Phentre Mawr o gymuned Abergele

3

Rhiw

Rhiw

Ward Rhiw o gymuned Bae Colwyn

3

Towyn

Tywyn

Ward Tywyn o gymuned Bae Cinmel a Thywyn

1

Tudno

Tudno

Ward Tudno o gymuned Llandudno

2

Uwch Aled

Uwch Aled

Cymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm a Phentrefoelas

1

Uwch Conwy

Uwch Conwy

Cymunedau Bro Garmon, Bro Machno ac Ysbyty Ifan

1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 38 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 59 i 55.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae erthygl 4 yn gweithredu’r argymhelliad ar gyfer newid i ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Bae Colwyn i gymuned Llandrillo-yn-Rhos.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.