Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1181 (Cy. 292)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

25 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mai 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “map” (“map”) yw’r map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau;

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o [F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013], ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol ConwyLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei rhannu’n 30 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymunedau Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn: newidiadau i ffiniau cymunedolLL+C

4.  Mae’r rhan o gymuned Bae Colwyn a ddangosir â llinellau ar y map wedi ei throsglwyddo i gymuned Llandrillo-yn-Rhos, ac yn ffurfio rhan o ward Rhos o gymuned Llandrillo-yn-Rhos.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Betws-yn-RhosBetws-yn-RhosCymunedau Betws-yn-Rhos a Llanfair Talhaearn1
Betws-y-Coed and TrefriwBetws-y-coed a ThrefriwCymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan a Threfriw1
BrynBrynWardiau Bryn a Lafan o gymuned Llanfairfechan1
CaerhunCaerhunCymunedau Caerhun, Dolgarrog a Henryd1
ColwynColwynWard Colwyn o gymuned Hen Golwyn2
ConwyConwyWardiau Aberconwy a Chastell o gymuned Conwy2
Craig-y-donCraig-y-donWard Craig-y-don o gymuned Llandudno2
DeganwyDeganwyWard Deganwy o gymuned Conwy2
Eglwys-bach a LlangernywEglwys-bach a LlangernywCymunedau Eglwys-bach a Llangernyw1
EiriasEiriasWard Eirias o gymuned Hen Golwyn2
Gele and LlanddulasGele a LlanddulasWardiau Gele a Llansansiôr o gymuned Abergele a chymuned Llanddulas a Rhyd-y-foel3
GlynGlynWard Glyn o gymuned Bae Colwyn2
Glyn y MarlGlyn y MarlWardiau Marl a Phen-sarn o gymuned Conwy3
Gogarth MostynGogarth MostynWardiau Gogarth a Mostyn o gymuned Llandudno3
Kinmel BayBae CinmelWard Bae Cinmel o gymuned Bae Cinmel a Thywyn3
Llandrillo-yn-RhosLlandrillo-yn-RhosCymuned Llandrillo-yn-Rhos4
Llanrwst a LlanddogedLlanrwst a LlanddogedCymunedau Llanrwst, a Llanddoged a Maenan2
LlansanffraidLlansanffraidCymuned Llansanffraid Glan Conwy1
LlansannanLlansannanCymunedau Llansannan a Llannefydd1
LlysfaenLlysfaenCymuned Llysfaen1
MochdreMochdreCymuned Mochdre1
PandyPandyWard Pandy o gymuned Llanfairfechan1
PenmaenmawrPenmaenmawrCymuned Penmaenmawr2
PenrhynPenrhynWard Penrhyn o gymuned Llandudno2
Pen-sarn Pentre MawrPen-sarn Pentre MawrWardiau Pen-sarn (Abergele) a Phentre Mawr o gymuned Abergele3
RhiwRhiwWard Rhiw o gymuned Bae Colwyn3
TowynTywynWard Tywyn o gymuned Bae Cinmel a Thywyn1
TudnoTudnoWard Tudno o gymuned Llandudno2
Uwch AledUwch AledCymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm a Phentrefoelas1
Uwch ConwyUwch ConwyCymunedau Bro Garmon, Bro Machno ac Ysbyty Ifan1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mai 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 38 i 30, a lleihau nifer y cynghorwyr o 59 i 55.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae erthygl 4 yn gweithredu’r argymhelliad ar gyfer newid i ffiniau cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Conwy ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo ardal o gymuned Bae Colwyn i gymuned Llandrillo-yn-Rhos.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r map y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.