Cymuned Doc Penfro: diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion a chreu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a BushLL+C

7.—(1Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;

(b)ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 7 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)