Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I2Ergl. 1 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Penfro;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 10 map a farciwyd “Map o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 2 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I4Ergl. 2 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir BenfroLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Benfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Benfro wedi ei rhannu’n 59 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 3 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I6Ergl. 3 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Aberdaugleddau: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

4.  Yng nghymuned Aberdaugleddau—

(a)mae’r rhan o ward Hakin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Aberdaugleddau;

(b)mae’r rhan o ward Hubberston a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hakin;

(c)mae’r rhan o ward Gogledd Aberdaugleddau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Aberdaugleddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 4 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I8Ergl. 4 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Penfro: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

5.  Mae’r rhan o ward gymunedol St Michael o gymuned Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol De St Mary o gymuned Penfro.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 5 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I10Ergl. 5 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

6.  Yng nghymuned Penfro—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De St Mary yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward St Michael yw 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 6 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I12Ergl. 6 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Doc Penfro: diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion a chreu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a BushLL+C

7.—(1Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;

(b)ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 7 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I14Ergl. 7 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Doc Penfro: diddymu ward gymunedol Pennar a chreu wardiau cymunedol Pennar a BufferlandLL+C

8.—(1Mae ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.

(2Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—

(a)ward Pennar a ddangosir â llinellau ar Fap 7;

(b)ward Bufferland a ddangosir â llinellau ar Fap 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 8 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I16Ergl. 8 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Doc Penfro: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

9.  Yng nghymuned Doc Penfro—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bufferland yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bush yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro yw 4;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pennar yw 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Ergl. 9 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I18Ergl. 9 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Saundersfoot: creu wardiau cymunedolLL+C

10.  Mae cymuned Saundersfoot i’w rhannu i ffurfio’r wardiau cymunedol a ganlyn—

(a)ward Gogledd Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 9;

(b)ward De Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Ergl. 10 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I20Ergl. 10 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Cymuned Saundersfoot: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

11.  Yng nghymuned Saundersfoot—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Saundersfoot yw 4;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Saundersfoot yw 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Ergl. 11 mewn grym ar 27.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)

I22Ergl. 11 mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler ergl. 1(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2021