NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Gorffennaf 2019 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Benfro. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 60 i 59, ond argymhellwyd bod nifer y cynghorwyr yn parhau yn 60.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Benfro ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Benfro.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i drefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir Benfro.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Hakin, Hubberston, Canol Aberdaugleddau, Gogledd Aberdaugleddau a Dwyrain Aberdaugleddau yng nghymuned Aberdaugleddau.

Mae erthyglau 5 a 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng wardiau cymunedol St Michael a De St Mary yng nghymuned Penfro, ac i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau hyn.

Mae erthygl 7 yn diddymu wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Canol Doc Penfro a Bush.

Mae erthygl 8 yn diddymu ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn creu wardiau cymunedol newydd Pennar a Bufferland.

Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau newydd Bufferland, Bush a Phennar yng nghymuned Doc Penfro, ac yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro.

Mae erthygl 10 yn creu wardiau cymunedol newydd Gogledd Saundersfoot a De Saundersfoot yng nghymuned Saundersfoot. Mae erthygl 11 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros y wardiau newydd hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Penfro. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Penfro yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.