2021 Rhif 1189 (Cy. 297)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R a 333(4B) o’r Ddeddf honno3, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongliI11

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym fel a ganlyn—

F1a

daw’r erthygl hon ac erthyglau 2(1) a 3(1) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;

b

daw erthygl 2(2)(b), (3)(a) ac (c) ac erthygl 3(2)(b) i rym ar 24 Ionawr 2022.

3

Pan fo—

a

cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022; a

b

yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2012 ond nad yw wedi gwneud hynny;

mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

4

Pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud cyn 25 Ebrill 2022, nid yw erthygl 14(1) o Orchymyn 2012 yn gymwys i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub.

5

Nid yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i—

a

ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

b

ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

6

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 19904;

  • ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20125;

  • ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 20166.

Diwygio Gorchymyn 2012I2I32

I21

Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn y tabl—

F2I2a

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I3b

ar ôl rhes (y) mewnosoder—

(z)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

i

datblygiad gwastraff;

ii

darparu tai annedd pan fo naill ai nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor neu pan fwriedir cyflawni’r datblygiad ar safle sydd â’i arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw’n hysbys a yw nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor;

iii

darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor;

iv

datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â’i arwynebedd yn 1 hectar neu fwy;

v

darparu 10 neu ragor o fflatiau (boed hynny drwy gynyddu nifer y fflatiau mewn adeilad presennol neu fel arall);

vi

darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn tai annedd neu fflatiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas; neu

vii

darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd sydd wedi eu cynnwys mewn tŷ annedd neu fflat a ddefnyddir fel tŷ amlfeddiannaeth, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas.

Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol

3

O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—

I3a

ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer “ac”;

F3I2b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I3c

ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

o

ym mharagraff (z) nid yw “tŷ amlfeddiannaeth” yn cynnwys bloc o fflatiau wedi ei drosi y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag a roddir i “house in multiple occupation” yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004.

Diwygio Gorchymyn 2016I4I53

I41

Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn y tabl—

F4I4a

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I5b

ar ôl rhes (v) mewnosoder—

(w)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

i

datblygiad gwastraff;

ii

darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu

iii

datblygiad a gyflawnir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu ragor.

Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol

F5I43

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) er mwyn—

a

amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2)(a) a (3)(b));

b

ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 2(2)(b) a (3)(a) ac (c)).

Mae erthygl 1(3) yn darparu, pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022 a’i bod yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2021 ond nad yw wedi gwneud hynny, fod y ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

Mae erthygl 1(4) yn darparu na fydd y gofyniad i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 25 Ebrill 2022.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd) er mwyn—

a

amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2)(a) a (3));

b

ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 3(2)(b)).

Mae erthygl 1(5) yn darparu nad yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i:

a

ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

b

ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.