2021 Rhif 1212 (Cy. 303)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 18 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3, 12 a 18, i rym am 4.00 a.m. ar 31 Hydref 2021.
3
Daw rheoliadau 3, 12 a 18 i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021.
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 2A3
1
Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (10) yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, yn lle paragraff (c) rhodder—
c
mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;
3
Ym mharagraff (12) yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Angola
Anguilla
Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
Yr Ariannin
Armenia
Azerbaijan
Belize
Bermuda
Botswana
Cambodia
Costa Rica
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
Djibouti
Eswatini
Gibraltar
Guernsey
Guyana
Honduras
Jersey
Lesotho
Libanus
Madagascar
Mauritius
Mongolia
Montserrat
Nepal
Panama
Periw
Rwanda
Seychelles
Sierra Leone
Sri Lanka
St Helena, Ascension a Tristan da Cunha
Suriname
Tanzania
Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
Tiriogaethau Meddianedig Palesteina
Trinidad a Tobago
Tunisia
Uganda
Uruguay
Ynys Manaw
Ynysoedd Cayman
Ynysoedd Falkland
Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
Ynysoedd Turks a Caicos
Diwygiadau i reoliad 6AB4
1
Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff (2)(a) rhodder—
a
“prawf diwrnod 2”—
i
mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
ii
mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, yw—
aa
prawf a ddisgrifir yn is-baragraff (i), neu
bb
prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZB o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;
Diwygiadau i reoliad 6DB5
1
Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
3
Yn lle is-baragraff (1) rhodder—
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.
4
Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Amnewid rheoliad 6E6
Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—
Goblygiadau canlyniad prawf positif6E
1
Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—
a
bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;
b
bo P yn deithiwr rheoliad 2A—
i
pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;
ii
pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.
2
Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
3
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
4
Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
5
Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—
a
diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;
b
yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.
6
Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.
7
Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.
8
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);
ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).
Diwygiadau i reoliad 6HB7
1
Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
3
Yn lle is-baragraff (1) rhodder—
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.
4
Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Diwygiadau i reoliad 148
1
Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff (1)(h) mewnosoder—
ha
6E(4);
3
Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i reoliad 169
Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiadau cosb benodedig)—
a
yn y geiriau agoriadol, ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ha)”;
b
yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”;
c
yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”.
Diwygiadau i Atodlen 110
Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer is-baragraffau (e) a (k)(iv).
Diwygiadau i Atodlen 1C11
1
Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—
Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd1ZB
1
Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—
a
yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu
b
yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZC.
2
Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—
a
pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol—
i
swabio’r trwyn yn y cogwrn canol neu ym mlaen y ffroenau;
ii
swabio’r tonsiliau;
iii
poer;
b
pan fo modd ei adnabod yn unigryw;
c
pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf, gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a
d
pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 20023, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.
Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd1ZC
1
Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—
a
pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) ac (h);
b
pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 21 Hydref 2021 a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r safonau hynny;
c
pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;
d
pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;
e
pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
f
pan fo ganddo system ar waith i wrthod canlyniadau gan ddyfeisiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol;
g
pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—
i
am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a
ii
mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—
aa
am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,
bb
a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac
cc
am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);
iii
mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);
h
os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—
i
paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;
ii
paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;
iii
paragraff 2D(2) a (4).
2
At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—
a
derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;
b
darparu’r prawf;
c
casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;
d
dadansoddi’r prawf;
e
gwirio canlyniad y prawf;
f
darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.
3
Yn lle paragraff (1A) rhodder—
1A
Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—
a
bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a
b
mewn perthynas â phrawf a ddisgrifir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—
i
tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—
aa
y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan y darparwr prawf,
bb
cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac
cc
canlyniad y prawf, a
ii
y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).
4
Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—
Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd2D
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.
2
Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—
a
hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu
b
peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,
yn unol ag is-baragraff (4).
3
Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—
a
pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;
b
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).
4
Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif, neu’n amhendant.
5
Ym mharagraff 3(d), ar ôl “ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZC(1)(h),”.
Diwygiadau i Atodlen 3A12
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—
Colombia
Ecuador
Gweriniaeth Dominica
Haiti
Gweriniaeth Panamá
Periw
Venezuela
RHAN 3Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 201013
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 20104 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 4A14
1
Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
3
Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
Mewnosod rheoliad 4AB
4
Ar ôl rheoliad 4A mewnosoder—
Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys4AB
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
2
Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).
3
Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
a
pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;
b
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
4
Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
a
mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—
i
ei enw cyntaf;
ii
ei gyfenw;
iii
ei ryw;
iv
ei ddyddiad geni;
v
ei rif GIG;
vi
ei ethnigrwydd;
vii
ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);
viii
y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;
ix
ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;
b
pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
c
rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);
d
rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;
e
cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
f
y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;
g
y dyddiad y cymerodd P y prawf;
h
cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;
i
cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
j
pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
k
yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—
i
enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;
ii
rhif y sbesimen;
iii
y math o sbesimen;
iv
dyddiad y sbesimen;
v
y dull profi;
vi
y canlyniad;
vii
y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
viii
enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
5
Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
a
yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
b
pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
6
Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
7
Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
8
Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.
Diwygiadau i reoliad 515
1
Mae rheoliad 5 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r swyddog priodol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (1), ar ôl “4A,” mewnosoder “4AB,”.
3
Ym mharagraff (2A), ar ôl “4A(3),” mewnosoder “4AB(4),”.
Diwygiad i reoliad 716
Yn rheoliad 7(1)(a) (cyfathrebiadau electronig), ar ôl “4A(1),” mewnosoder “4AB,”.
RHAN 4Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 202017
Yn lle rheoliad 3A(4)(a) (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 20205 rhodder—
a
pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—
i
yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
ii
yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,
iii
yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk,
iv
yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a
v
yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
RHAN 5Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 202018
Yn rheoliad 16A(12) (mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20206, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Angola
Anguilla
Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
Yr Ariannin
Armenia
Azerbaijan
Belize
Bermuda
Botswana
Cambodia
Costa Rica
De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De
Djibouti
Eswatini
Gibraltar
Guernsey
Guyana
Honduras
Jersey
Lesotho
Libanus
Madagascar
Mauritius
Mongolia
Montserrat
Nepal
Panama
Periw
Rwanda
Seychelles
Sierra Leone
Sri Lanka
St Helena, Ascension a Tristan da Cunha
Suriname
Tanzania
Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
Tiriogaethau Meddianedig Palesteina
Trinidad a Tobago
Tunisia
Uganda
Uruguay
Ynys Manaw
Ynysoedd Cayman
Ynysoedd Falkland
Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
Ynysoedd Turks a Caicos
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)