Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Diwygiadau i reoliad 2A

3.—(1Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (10) yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;.

(3Ym mharagraff (12) yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Angola

Anguilla

Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

Yr Ariannin

Armenia

Azerbaijan

Belize

Bermuda

Botswana

Cambodia

Costa Rica

De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De

Djibouti

Eswatini

Gibraltar

Guernsey

Guyana

Honduras

Jersey

Lesotho

Libanus

Madagascar

Mauritius

Mongolia

Montserrat

Nepal

Panama

Periw

Rwanda

Seychelles

Sierra Leone

Sri Lanka

St Helena, Ascension a Tristan da Cunha

Suriname

Tanzania

Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

Tiriogaethau Meddianedig Palesteina

Trinidad a Tobago

Tunisia

Uganda

Uruguay

Ynys Manaw

Ynysoedd Cayman

Ynysoedd Falkland

Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

Ynysoedd Turks a Caicos .

Diwygiadau i reoliad 6AB

4.—(1Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2)(a) rhodder—

(a)“prawf diwrnod 2”—

(i)mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;

(ii)mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, yw—

(aa)prawf a ddisgrifir yn is-baragraff (i), neu

(bb)prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZB o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;.

Diwygiadau i reoliad 6DB

5.—(1Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.

(3Yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.

(4Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.

Amnewid rheoliad 6E

6.  Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—

Goblygiadau canlyniad prawf positif

6E.(1) Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—

(a)bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;

(b)bo P yn deithiwr rheoliad 2A—

(i)pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;

(ii)pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.

(2) Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(4) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(5) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;

(b)yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.

(6) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.

(7) Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.

(8) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);

ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).

Diwygiadau i reoliad 6HB

7.—(1Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.

(3Yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.

(4Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.

Diwygiadau i reoliad 14

8.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (1)(h) mewnosoder—

(ha)6E(4);.

(3Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(4)”.

Diwygiadau i reoliad 16

9.  Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ha)”;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”;

(c)yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

10.  Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer is-baragraffau (e) a (k)(iv).

Diwygiadau i Atodlen 1C

11.—(1Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd

1ZB.(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu

(b)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZC.

(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol—

(i)swabio’r trwyn yn y cogwrn canol neu ym mlaen y ffroenau;

(ii)swabio’r tonsiliau;

(iii)poer;

(b)pan fo modd ei adnabod yn unigryw;

(c)pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf, gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a

(d)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(2), ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.

Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd

1ZC.(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) ac (h);

(b)pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 21 Hydref 2021 a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r safonau hynny;

(c)pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;

(d)pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(e)pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(f)pan fo ganddo system ar waith i wrthod canlyniadau gan ddyfeisiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol;

(g)pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i)am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa)am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,

(bb)a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac

(cc)am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);

(iii)mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);

(h)os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i)paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;

(ii)paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;

(iii)paragraff 2D(2) a (4).

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—

(a)derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;

(b)darparu’r prawf;

(c)casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;

(d)dadansoddi’r prawf;

(e)gwirio canlyniad y prawf;

(f)darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.

(3Yn lle paragraff (1A) rhodder—

1A.  Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—

(a)bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(b)mewn perthynas â phrawf a ddisgrifir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—

(i)tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—

(aa)y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan y darparwr prawf,

(bb)cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac

(cc)canlyniad y prawf, a

(ii)y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).

(4Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—

Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd

2D.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.

(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—

(a)hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu

(b)peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,

yn unol ag is-baragraff (4).

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—

(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;

(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).

(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif, neu’n amhendant.

(5Ym mharagraff 3(d), ar ôl “ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZC(1)(h),”.

Diwygiadau i Atodlen 3A

12.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—

Colombia

Ecuador

Gweriniaeth Dominica

Haiti

Gweriniaeth Panamá

Periw

Venezuela .

Back to top

Options/Help