RHAN 3Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010
13. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
Diwygiadau i reoliad 4A
14.—(1) Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
(3) Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.
Mewnosod rheoliad 4AB
(4) Ar ôl rheoliad 4A mewnosoder—
“Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys
4AB.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(2) Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).
(3) Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—
(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;
(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(4) Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—
(i)ei enw cyntaf;
(ii)ei gyfenw;
(iii)ei ryw;
(iv)ei ddyddiad geni;
(v)ei rif GIG;
(vi)ei ethnigrwydd;
(vii)ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);
(viii)y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;
(ix)ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;
(b)pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;
(c)rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);
(d)rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;
(e)cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(f)y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;
(g)y dyddiad y cymerodd P y prawf;
(h)cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;
(i)cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(j)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
(k)yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—
(i)enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;
(ii)rhif y sbesimen;
(iii)y math o sbesimen;
(iv)dyddiad y sbesimen;
(v)y dull profi;
(vi)y canlyniad;
(vii)y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;
(viii)enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.
(5) Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—
(a)yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a
(b)pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.
(6) Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.
(7) Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.”
Diwygiadau i reoliad 5
15.—(1) Mae rheoliad 5 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r swyddog priodol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), ar ôl “4A,” mewnosoder “4AB,”.
(3) Ym mharagraff (2A), ar ôl “4A(3),” mewnosoder “4AB(4),”.
Diwygiad i reoliad 7
16. Yn rheoliad 7(1)(a) (cyfathrebiadau electronig), ar ôl “4A(1),” mewnosoder “4AB,”.