Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Diwygiadau i reoliad 6DB
5.—(1) Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.
(3) Yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.”
(4) Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.
Back to top