xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yn nhref Bwcle—

(a)mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;

(b)mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.

Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yn nhref Bwcle—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.

Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yn nhref y Fflint—

(a)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.

Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yn nhref y Fflint—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.

Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedol

8.  Yn nhref Cei Connah—

(a)mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;

(b)mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.

Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Yn nhref Cei Connah—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.

Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedol

10.  Yng nghymuned yr Wyddgrug—

(a)mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;

(b)mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;

(c)mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.

Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol Penarlâg

11.  Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.

Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

12.  Yng nghymuned Penarlâg—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021