xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
1 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Awst 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiad.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Dinas Casnewydd;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 2 fap a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” a “2”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi ei rhannu’n 21 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).
4. Mae’r rhan o gymuned Graig a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i gymuned Tŷ-du, ac yn ffurfio rhan o ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.
5. Yng nghymuned Tŷ-du—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Tŷ-du yw 4;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Tŷ-du yw 4;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Tŷ-du yw 7.
6. Mae’r rhan o gymuned Pilgwenlli a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i gymuned Stow Hill.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
1 Tachwedd 2021
Erthygl 3
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|---|---|---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
Allt-yr-yn | Allt-yr-ynn | Cymuned Allt-yr-ynn | 3 |
Alway | Alway | Cymuned Alway | 3 |
Beechwood | Beechwood | Cymuned Beechwood | 3 |
Bettws | Betws | Cymuned Betws | 3 |
Bishton and Langstone | Trefesgob a Langstone | Cymunedau Trefesgob, Langstone, Llanfaches, a Phen-hw | 2 |
Caerleon | Caerllion | Cymuned Caerllion | 3 |
Gaer | Gaer | Cymuned Gaer | 3 |
Graig | Graig | Cymuned Graig | 2 |
Lliswerry | Llyswyry | Cymuned Llyswyry | 4 |
Llanwern | Llan-wern | Cymunedau Allteuryn, Llan-wern, Trefonnen a Redwick | 1 |
Malpas | Malpas | Cymuned Malpas | 3 |
Pillgwenlly | Pilgwenlli | Cymuned Pilgwenlli | 2 |
Ringland | Ringland | Cymuned Ringland | 3 |
Rogerstone East | Dwyrain Tŷ-du | Ward Dwyrain Tŷ-du o gymuned Tŷ-du | 1 |
Rogerstone North | Gogledd Tŷ-du | Ward Gogledd Tŷ-du o gymuned Tŷ-du | 1 |
Rogerstone West | Gorllewin Tŷ-du | Ward Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du | 2 |
Shaftesbury | Shaftesbury | Cymuned Shaftesbury | 2 |
St Julians | Sain Silian | Cymuned Sain Silian | 3 |
Stow Hill | Stow Hill | Cymuned Stow Hill | 2 |
Tredegar Park and Marshfield | Parc Tredegar a Maerun | Cymunedau Maerun, Llanfihangel-y-fedw, Coedcernyw, Gwynllŵg a Pharc Tredegar | 3 |
Victoria | Victoria | Cymuned Victoria | 2 |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Awst 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig cynyddu nifer y wardiau etholiadol o 20 i 21 a chynyddu nifer y cynghorwyr o 50 i 51.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiad.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ar gyfer newidiadau i ffiniau cymunedol a newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Ninas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Graig a Thŷ-du. Mae erthygl 5 yn gwneud newidiadau i nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Dwyrain Tŷ-du, Gogledd Tŷ-du a Gorllewin Tŷ-du o gymuned Tŷ-du.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffin rhwng cymunedau Pilgwenlli a Stow Hill.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” a “2” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Dinas Casnewydd. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Dinas Casnewydd yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”) ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.
1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.