Llan-arth, Llanofer, Rhaglan a Chastell-gwyn — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
120. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 91—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Pen-rhos;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.