Trefynwy a Chastell-gwyn — newid ffiniau wardiau cymunedol a newid canlyniadol i drefniadau etholiadol
192. Mae’r rhan o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 127—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.