Castell-gwyn, Llandeilo Gresynni a Llangatwg Feibion Afel — newid ffin gymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

239.  Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 160—

(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;

(b)mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;

(c)mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;

(d)mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;

(e)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.