- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
251.—(1) Yn yr erthygl hon—
ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Fynwy;
ystyr “y cynghorau cymuned newydd” (“the new community councils”) yw’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1);
ystyr “y gymuned newydd” (“the new community”) yw ardal gymunedol briodol y cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.
(2) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai—
(a)at ddibenion gwneud cyfrifiad yn unol ag adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992—
(i)y swm yr hysbyswyd amdano yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â’r gymuned newydd, a
(ii)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.
(b)is-adran (6) wedi ei hepgor.
(3) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai ei bod yn ofynnol i’r awdurdod bilio arfaethedig, wrth wneud cyfrifiadau yn unol ag adran 32 o Ddeddf 1992 (yn wreiddiol neu drwy amnewidiad) at ddibenion ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992, gymryd i ystyriaeth swm sy’n hafal i’r swm hwnnw yr hysbyswyd iddo yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(4) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai cyfanswm y praeseptau a ragwelir gan yr awdurdod bilio arfaethedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf 1992 yn cynnwys y symiau a hysbyswyd i’r cynghorau cymuned newydd yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(5) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai’n ofynnol i bob un o’r cynghorau cymuned newydd sicrhau nad yw’r swm a gyfrifir fel ei ofyniad cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na’r swm a hysbyswyd i’r cyngor cymuned newydd hwnnw yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(6) Rhaid i’r swm priodol sydd i’w hysbysu i bob un o’r cynghorau cymuned newydd yn unol â’r paragraff hwn gael ei hysbysu gan Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig i’r awdurdod bilio arfaethedig ac i bob un o’r cynghorau cymuned newydd.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(2) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai—
(a)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni talu) wedi ei hepgor;
(b)ym mharagraff 8 o’r Atodlen (rheolau i benderfynu’r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau)—
(i)yn is-baragraffau (1), (2) a (3), bod y geiriau sy’n dilyn y cyfeiriad cyntaf at “that financial year” wedi eu hepgor;
(ii)yn is-baragraff (1)(a) bod y cyfeiriad at “April” yn gyfeiriad at “May”.
1992 p. 14. Diwygiwyd adrannau 32 a 35, o ran Cymru, gan baragraffau 4 a 6 yn y drefn honno o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Diwygiwyd adran 50 gan Ran 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Mewnosodwyd adrannau 52X a 52Y gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p. 27).
O.S. 1995/2562 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2001/3649).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: