Cas-gwent, Matharn a St Arvans — newid ffiniau cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol
58. Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 47—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Thornwell;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.