Enwi, cychwyn a dirymuI1I21
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021.
2
At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
3
At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 20223.
4
Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 20214 wedi ei ddirymu.
DehongliI3I42
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 19765;
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o F1Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y FflintI5I63
1
Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
2
Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
3
Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
4
Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
5
Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19726.
Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedolI7I84
Yn nhref Bwcle—
a
mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;
b
mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.
Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI9I105
Yn nhref Bwcle—
a
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;
b
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.
Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedolI11I126
Yn nhref y Fflint—
a
mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;
b
mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.
Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI13I147
Yn nhref y Fflint—
a
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;
b
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.
Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedolI15I168
Yn nhref Cei Connah—
a
mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;
b
mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.
Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI17I189
Yn nhref Cei Connah—
a
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;
b
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.
Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedolI19I2010
Yng nghymuned yr Wyddgrug—
a
mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;
b
mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;
c
mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.
Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol PenarlâgI21I2211
Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—
a
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;
b
mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.
Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolI23I2412
Yng nghymuned Penarlâg—
a
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;
b
nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.