Newid mewn amgylchiadauI118
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
a
sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,
b
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
c
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
3
Yn yr erthygl hon ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 201016 ond nid yw’n cynnwys disgybl sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig o ganlyniad i un neu ragor o’r canlynol—
i
cyrraedd diwedd trydydd tymor y flwyddyn olaf y mae’r ysgol yn darparu addysg yn gyffredinol;
ii
bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i weithredu cynnig a wneir o dan adran 43 (cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwd), adran 44 (cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion arbennig cymunedol), adran 59 (gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion Cymru), adran 68 (cynigion gan Weinidogion Cymru) neu adran 80 (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 201317;
iii
bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i gyfarwyddyd a wneir o dan adran 16 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau) neu adran 81 (cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
iv
bod yr uned cyfeirio disgyblion yn cael ei chau yn barhaol.