[F116A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]
Diwygiadau Testunol