2021 Rhif 1244 (Cy. 316) (C. 69)
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20181, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongliI11
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
- i
adran 312(2)2 o Ddeddf 1996—
- aa
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- bb
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- aa
- ii
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
- i
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 5793 o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;
F9ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 5794 o Ddeddf 1996;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)5 o Ddeddf 2014;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
- i
adran 312(4)6 o Ddeddf 1996—
- aa
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
- bb
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
- aa
- ii
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
- i
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19967;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 20148;
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 4349 o Ddeddf 1996;
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond nid yw’n cynnwys person sydd ym mlwyddyn 11;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 201210;
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru11;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)12 o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)13 o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
3
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
a
adran 323;
b
adran 329;
c
adran 329A.
4
Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
a
y Ddeddf,
b
rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
c
unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
i
darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu
ii
person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
5
At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
a
os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
b
os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
6
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
7
At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
a
pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
b
pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwydI22
1
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig—
a
mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
b
mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
i
yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
ii
y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P;
a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
2
Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
a
y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
b
y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
c
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
d
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
e
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
iii
dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
f
y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
g
y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
iii
dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
h
y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
i
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
i
nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben, neu
ii
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
j
y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
k
nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 200014—
i
yn mynd rhagddo, neu
ii
wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
l
y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
m
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
v
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
n
y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
i
nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
ii
bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
iii
nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
o
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
v
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
aa
gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
bb
ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
p
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
q
y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
i
nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
ii
bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
iii
bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
iv
bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022I33
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
a
adrannau 2 i 4;
b
adrannau 6 i 14;
c
adrannau 17 i 36;
d
adran 38;
e
adrannau 40 i 44;
f
adrannau 47 i 49;
g
adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
h
adran 50(4) i (5);
i
adrannau 51 i 53;
j
adran 55;
k
adran 59;
l
adrannau 63 i 66;
m
adrannau 68 i 69;
n
adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
o
yn yr Atodlen—
i
paragraff 1;
ii
paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
iii
paragraff 4(2) i 4(8);
iv
paragraff 4(9);
v
paragraff 4(10);
vi
paragraff 4(13) i 4(18);
vii
paragraff 4(19)(b);
viii
paragraff 4(20) a 4(21);
ix
paragraff 4(23) i 4(29);
x
paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
xi
paragraff 7;
xii
paragraff 8;
xiii
paragraff 11(a);
xiv
paragraff 12(a);
xv
paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
xvi
paragraff 14(2) a (3);
xvii
paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
xviii
paragraff 19(5)(e)(ii);
xix
paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
xx
paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
xxi
paragraff 22;
xxii
paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
xxiii
paragraff 23(4);
xxiv
paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
xxv
paragraff 24(3) a (6)(a).
Darpariaeth arbedI44
Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 14 i 19, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 199615 wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—
a
mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
b
nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Hysbysiad CDUI55
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
a
bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
b
y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.
Hysbysiad Dim CDUI66
Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Effaith hysbysiad CDUI77
Effaith yr hysbysiad CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Effaith hysbysiad Dim CDUI88
Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
a
y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
b
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
c
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Dyletswydd i roi hysbysiadI99
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 F2neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023.
I10I910
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd F5ym mlwyddyn10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
F710A
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.
I11I911
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl F129, 10 na 10A.
2
Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 F13neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025.
Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDUI1212
Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 niwrnod gwaith i’r cais.
Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigolI1313
1
Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, F1010A, 11 neu 12 rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
2
Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
3
Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan awdurdod lleol yn gymwys pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Hysbysiad ADYI1414
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
3
Effaith yr hysbysiad ADY yw—
a
bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
b
bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
4
Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.
Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodolI1515
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
b
a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac
c
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F32023.
2
Ar 31 Awst F42023—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I16I1516
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
b
a oedd F6ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023, ac
c
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
2
Ar 31 Awst 2023—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
F816A
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
b
a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
c
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
2
Ar 31 Awst 2024—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I17I1517
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
a
a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022, a
b
nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst F142025.
2
Ar 31 Awst F142025—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Newid mewn amgylchiadau
I1818
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
a
sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
b
nad yw’n blentyn sy’n derbyn gofal,
c
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a
d
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
I19I1819
1
Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
a
sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
b
nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
c
y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
2
Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal—
a
mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
b
mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigolI2020
Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
F1Galluedd plant21
1
Mae paragraff (2) yn gymwys—
a
i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2)F11, 10A(2) ac 11(2);
b
i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
c
i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 12 wythnos yn erthygl 13(1);
d
i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2).
2
Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
3
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
4
Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn16:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adrannau 10 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 16 (yn rhannol) | ||
(yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/374 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
1 Medi 2021 | ||
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 |