- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
9 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
adran 312(2) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(2) o Ddeddf 1996;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2) o Ddeddf 2014;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
adran 312(4) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(3);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(4);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8(5) o Ddeddf 1996;
mae i “perchennog” yr un ystyr â “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf 1996;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(6);
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(7);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A) o Ddeddf 1996;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu unrhyw ysgol arbennig gymunedol nad yw wedi ei sefydlu mewn ysbyty o fewn ystyr Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(8);
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(4) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(9).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2. Mae gan blentyn “P” “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” at ddibenion y Gorchymyn hwn os oes gan P anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog neu awdurdod lleol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Ergl. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 ac eithrio mewn perthynas â pherson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 17 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)paragraff 4(9);
(v)paragraff 4(10);
(vi)paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)paragraff 4(19)(b);
(viii)paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)paragraff 4(23) i 4(29);
(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)paragraff 7;
(xii)paragraff 8;
(xiii)paragraff 11(a);
(xiv)paragraff 12(a);
(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)paragraff 14(2) a (3);
(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)paragraff 22;
(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)paragraff 23(4);
(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Ergl. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4. Person—
(a)sydd ym mlwyddyn 11;
(b)nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;
(c)sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
(d)sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd;
(e)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(f)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(h)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(i)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(j)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(k)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(l)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(10)—
(i)yn mynd rhagddo; neu
(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
(m)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(n)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(o)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(p)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Ergl. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phersonau penodol. Mae’r Gorchymyn yn gwneud hyn drwy eithrio o’r cychwyn hwnnw bersonau sy’n dod o fewn categori a nodir yn erthygl 4 ar 1 Ionawr 2022. Mae’r categorïau sydd wedi eu heithrio yn cynnwys y rheini sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a’r rheini sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol. Mae hyn yn cynnwys y rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd (gweler erthygl 2).
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(11):
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adrannau 10 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 16 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(12) |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 54 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 56 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 75 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 76 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 77 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/374 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 83 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 85 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 91 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 92 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 95 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) | |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
(yn llawn) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12)(13) |
Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
O.S. 2012/322 (Cy. 53).
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34) ac O.S. 2021/938 (Cy. 214) (C. 49).
Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: