NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o dystysgrifau brechlyn penodol a ddyroddir gan wledydd a thiriogaethau Ewropeaidd ychwanegol, at ddibenion esemptiadau teithio o ran profi cyn ymadael a brechlynnau.

Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—

  • estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau;

  • ehangu’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” drwy ddileu’r gofyniad ei fod i’w weinyddu mewn gwlad berthnasol a thrwy gydnabod brechlynnau penodol a gydnabyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd;

  • dileu’r gofynion preswylio ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn Unol Daleithiau America, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, a theithwyr o dan 18 oed;

  • cyflwyno dulliau pellach i deithwyr brofi eu bod wedi eu brechu, gan gynnwys tystysgrifau trydydd gwledydd a thiriogaethau a gymeradwywyd a thystysgrifau brechu taleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau;

  • gwneud diwygiadau technegol pellach gan gynnwys ynghylch brechiadau fel rhan o raglen frechu’r DU dramor.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i esemptio’r personau a ganlyn rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr pan fônt wedi teithio i Gymru yng nghwrs eu gwaith (pa un a ydynt wedi teithio ar gludiant sy’n cario teithwyr ai peidio): gweithwyr cludiant ffyrdd; gweithwyr cludiant teithwyr ffyrdd; meistri a morwyr; peilotiaid ar longau masnach; arolygwyr a syrfewyr llongau; a chriw awyren.

Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddileu’r gofyniad i ddiplomyddion penodol gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn dibynnu ar ddarpariaethau esemptio rhag ynysu. Mae rheoliad 9 hefyd wedi ei ddiwygio er mwyn cysoni esemptiadau rhag ynysu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd ni waeth beth fo’u statws preswylio.

Mae rheoliadau 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol yn dilyn y diwygiadau a wneir gan reoliad 4.

Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau ym mharagraff (12) o’r rheoliad hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.