- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn estyn y gydnabyddiaeth o dystysgrifau brechlyn penodol a ddyroddir gan wledydd a thiriogaethau Ewropeaidd ychwanegol, at ddibenion esemptiadau teithio o ran profi cyn ymadael a brechlynnau.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn—
estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau;
ehangu’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” drwy ddileu’r gofyniad ei fod i’w weinyddu mewn gwlad berthnasol a thrwy gydnabod brechlynnau penodol a gydnabyddir gan Sefydliad Iechyd y Byd;
dileu’r gofynion preswylio ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu yn Unol Daleithiau America, cyfranogwyr mewn treialon clinigol, a theithwyr o dan 18 oed;
cyflwyno dulliau pellach i deithwyr brofi eu bod wedi eu brechu, gan gynnwys tystysgrifau trydydd gwledydd a thiriogaethau a gymeradwywyd a thystysgrifau brechu taleithiau penodol yn yr Unol Daleithiau;
gwneud diwygiadau technegol pellach gan gynnwys ynghylch brechiadau fel rhan o raglen frechu’r DU dramor.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 (personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i esemptio’r personau a ganlyn rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr pan fônt wedi teithio i Gymru yng nghwrs eu gwaith (pa un a ydynt wedi teithio ar gludiant sy’n cario teithwyr ai peidio): gweithwyr cludiant ffyrdd; gweithwyr cludiant teithwyr ffyrdd; meistri a morwyr; peilotiaid ar longau masnach; arolygwyr a syrfewyr llongau; a chriw awyren.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan ddileu’r gofyniad i ddiplomyddion penodol gael awdurdodiad ysgrifenedig gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn dibynnu ar ddarpariaethau esemptio rhag ynysu. Mae rheoliad 9 hefyd wedi ei ddiwygio er mwyn cysoni esemptiadau rhag ynysu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrdd ni waeth beth fo’u statws preswylio.
Mae rheoliadau 7 ac 8 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol yn dilyn y diwygiadau a wneir gan reoliad 4.
Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A (mesurau penodol sy’n gymwys i leoliadau a mangreoedd lletygarwch ac adloniant penodedig neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau ym mharagraff (12) o’r rheoliad hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: