xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1294 (Cy. 328)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed

20 Tachwedd 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 22(1)(a), 22(2)(a), 22(2)(e) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4.  Yn rheoliad 3 (dehongli)—

(a)rhifer y testun presennol yn baragraff (1);

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

“mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” gan reoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020;;

“mae i “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” yr ystyr a roddir i “Swiss citizens’ rights agreement” gan adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

“mae i “person perthnasol o Ogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “relevant person of Northern Ireland” gan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

“ystyr “person sydd â chaniatâd Calais” (“person with Calais leave”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros o dan baragraffau 352J, 352K, 352L neu 352T o’r rheolau mewnfudo (caniatâd Calais a “caniatâd oherwydd llinach” a roddir yn rhinwedd bod yn blentyn dibynnol i berson y rhoddwyd caniatâd Calais iddo);;

“ystyr “person sydd â hawliau gwarchodedig” (“person with protected rights”) yw—

(1) (a) person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion—

(i)a chanddo ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio(4);

(ii)sy’n ddinesydd Gwyddelig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971(5), gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(iii)sy’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 pan na fo’r cyfnod perthnasol wedi dod i ben; neu

(iv)fel arall sydd â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu

(b)aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

(2) Ym mharagraff (1)(a)(iv), ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(6)); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;;

ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” (“person granted leave to remain as a protected partner”) yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i aros yn y Deyrnas Unedig naill ai fel dioddefwr trais domestig neu gam-drin domestig neu fel partner sydd wedi cael profedigaeth o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o’r rheolau mewnfudo—

(a)

paragraff 289B (dioddefwyr trais domestig);

(b)

paragraffau D-DVILR.1.1 a D-DVILR.1.2 o Atodiad FM (dioddefwyr cam-drin domestig);

(c)

paragraffau 40 ac 41 o Atodiad Lluoedd Arfog (dioddefwyr trais domestig sy’n bartneriaid i aelodau o’r lluoedd arfog);

(d)

paragraff 288, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 287(b) o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (priodau neu bartneriaid sifil sydd wedi cael profedigaeth);

(e)

paragraffau D-BPILR.1.1 a D-BPILR.1.2 o Atodiad FM (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth);

(f)

paragraffau 36 a 37 o Atodiad Lluoedd Arfog (partneriaid sydd wedi cael profedigaeth); neu

(g)

paragraff 295N, fel person y mae’r gofynion ym mharagraff 295M o’r rheolau hynny wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef (partneriaid di-briod neu bartneriaid o’r un rhyw sydd wedi cael profedigaeth);;

mae i “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yr ystyr a roddir i “residence scheme immigration rules” gan adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020;;

ystyr “Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020” (“2020 Citizens’ Rights Regulations”) yw Rheoliadau Hawliau Dinasyddion (Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau a Diogelwch Dros Dro) (Ymadael â’r UE) 2020(7);;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion os yw’r person hwnnw yn dod o fewn—

(a)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 9 (cwmpas personol) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 10 (cwmpas personol) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

5.  Yn rheoliad 6 (myfyrwyr cymwys)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “baragraff” rhodder “baragraffau (2B) a”;

(ii)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn fod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir—

(i)ym mharagraffau 2A, 4, 6A, 7, 8A, 9A, 9B, 9BA, 9C, 9D, 10A, 11A a 12A yn Rhan 2 o Atodlen 1, neu

(ii)ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn Rhan 2 o Atodlen 1, pan fo paragraff (2A) yn gymwys.

(2A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—

(a)mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022, Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth gan berson (“A”), wedi penderfynu bod A wedi dod o fewn un o’r categorïau a nodir ym mharagraffau 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12 yn Rhan 2 o Atodlen 1 mewn perthynas â blwyddyn academaidd o’r cwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022; a

(b)A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw, neu gwrs dynodedig y mae statws A fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo iddo o’r cwrs hwnnw yn unol â’r Rhan hon.

(2B) Mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2028, mae paragraff (2)(b) yn cael effaith fel pe na bai’n crybwyll paragraffau 8A, 9B, 9BA a 9D.;

(b)ym mharagraff (8), yn lle “(9) a (10)” mewnosoder “(2B) a (9) i (10D)”;

(c)ar ôl paragraff (10A) mewnosoder—

(10B) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â hawliau a ddiogelir sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad—

(i)â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol; neu

(ii)â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, nad oes gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi o dan y rheolau hynny,

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(10C) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi,

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(10D) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y faith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(8)),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(10E) Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod—

(i)yn dod o fewn paragraff (a)(iii), (iv) neu (v) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu

(ii)yn bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) yn Rhan 2 o Atodlen 1,

yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, a

(b)ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd yn dechrau, nad yw A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

6.  Yn rheoliad 9 (trosglwyddo cymhwystra), ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 6(2)(b)(ii) ond pan na fo statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo ar neu ar ôl 1 Medi 2022 o’r cwrs dynodedig y cyfeirir ato yn rheoliad 6(2A)(a) i gwrs dynodedig arall.

7.  Yn rheoliad 15(2) (grantiau at gostau byw a chostau eraill), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”

8.  Yn rheoliad 17(2) (lwfans myfyriwr anabl), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”

9.  Yn rheoliad 20(3) (grant dibynyddion mewn oed), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”

10.  Yn rheoliad 22(2) (lwfans dysgu rhieni), yn lle’r geiriau o “paragraff 9” hyd at y diwedd rhodder “un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.”

11.—(1Mae Atodlen 1 (myfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn:

(2Ym mharagraff 1 (dehongli)—

(a)yn is-baragraff (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd”, “cytundeb gwahanu EFTA yr AEE”, “hawl i breswylio’n barhaol” a “rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio”;

(ii)yn y diffiniad o “aelod o deulu”—

(aa)ym mharagraff (a), yn lle “neu berson hunangyflogedig o’r AEE” rhodder “, person hunangyflogedig o’r AEE, neu berson perthnasol o Ogledd Iwerddon sy’n cael ei drin fel gweithiwr mudol o’r AEE neu berson hunangyflogedig o’r AEE yn rhinwedd paragraff 6A(3)”;

(bb)ym mharagraff (c), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38”(9) mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(cc)ym mharagraff (d), ar ôl “Gyfarwyddeb 2004/38” mewnosoder “neu, at ddibenion paragraff 9A, mewn perthynas â pherson perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r UE neu’n wladolyn o’r UE yn unig”;

(dd)ym mharagraff (e), yn lle “paragraff 9” rhodder “paragraffau 9, 9B, 9C a 9D”;

(iii)yn lle’r diffiniad o “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” rhodder—

mae i “gwladolyn o’r Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom national” gan Erthygl 2(d) o’r cytundeb ymadael â’r UE;;

(b)ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(5A) At ddibenion yr Atodlen hon, mae cyfeiriad at “Member State” neu “State” yn Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys y Deyrnas Unedig.;

(c)yn is-baragraff (7) ar ôl “Ynysoedd” mewnosoder “, yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio”;

(d)yn is-baragraff (8)—

(i)ar ôl “Deyrnas Unedig” y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “, y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio”;

(ii)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gweriniaeth Iwerddon, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o’r lluoedd hynny y tu allan i’r diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio;.

(3Ym mharagraff 2(1) (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;.

(4Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

2A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac nad yw’n dod o fewn paragraff 3;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio a thrwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

(5Ym mharagraff 3—

(a)rhifer y testun presennol yn is-baragraff (1);

(b)yn lle is-baragraff (1)(a) fel y’i rhifwyd felly rhodder—

(a)sy’n bodloni un o’r amodau a ganlyn ar y dyddiad perthnasol—

(i)mae’r person o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;

(ii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n ddinesydd Gwyddelig sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig nad yw’n ofynnol iddo, yn unol ag adran 3ZA o Ddeddf Mewnfudo 1971, gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi; ac

(cc)byddai’n bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio pe bai’r person hwnnw yn gwneud cais am ganiatâd o’r fath;

(iii)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n berson perthnasol at ddibenion rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020; a

(iv)o ran y person—

(aa)mae o fewn cwmpas personol y darpariaethau hawliau dinasyddion;

(bb)mae’n geisydd at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3); ac

(cc)mae ganddo hawl i breswylio’n barhaol, neu’n cael ei drin fel pe bai ganddo hawl o’r fath, at ddibenion Rheoliadau Mewnfudo (Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2016, fel y mae’r Rheoliadau hynny yn parhau i gael effaith yn rhinwedd Rheoliadau Hawliau Dinasyddion 2020 mewn perthynas â’r person hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3); neu

(v)mae’r person yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon at ddibenion rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, pan fo’r aelod hwnnw o’r teulu wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd cael caniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros o dan reolau mewnfudo’r cynllun preswylio;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(ii)(cc), ystyr “gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd amhenodol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio” yw’r gofynion cymhwystra ar gyfer caniatâd o’r fath yn unol â pharagraff EU11 o Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo (fel y diffinnir “immigration rules” yn adran 33(1) o Ddeddf Mewnfudo 1971).

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

(6yn lle paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) rhodder—

Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd

4ZA.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo);

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Person—

(a)sy’n blentyn a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)o dan 18 oed; a

(ii)yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu, yn ôl y digwydd, yn blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir ar y dyddiad hwnnw (yn rhinwedd diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, caniatâd i aros fel person diwladwriaeth o dan y rheolau mewnfudo neu adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016(10) a’r rheolau mewnfudo, yn ôl y digwydd);

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(4) Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;

(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw—

(i)person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(iii)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67; neu

(iv)person sydd â chaniatâd Calais;

(c)ystyr “plentyn a ddiogelir” yw—

(i)plentyn i—

(aa)person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth; neu

(ac)person sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67;

(ii)plentyn i briod neu bartner sifil—

(aa)person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(ab)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth;

(d)ystyr “priod neu bartner sifil a ddiogelir” yw priod neu bartner sifil—

(i)person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo; neu

(ii)person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth.

(7Ar ôl paragraff 4ZA (personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—

Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant

4ZB.(1) Person—

(a)y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd y caniatâd hwnnw iddo; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2) Person—

(a)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, o dan 18 oed ac yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo i aros yn y Deyrnas Unedig;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person (“P”) gais am ganiatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi sy’n arwain at P yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir.

(8Yn Atodlen 1, hepgorer—

(a)paragraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd); a

(b)paragraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67).

(9Ar ôl paragraff 6 (gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd), mewnosoder—

6A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig, neu weithiwr y ffin o fewn yr ystyr a roddir i “frontier worker” yn rheoliad 3 o Reoliadau Hawliau Dinasyddion (Gweithwyr Trawsffiniol) (Ymadael â’r UE) 2020(11)

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol,

(i)yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr y ffin o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig y ffin o’r AEE;

(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

(3) Yn y paragraff hwn, mae disgrifiad o berson yn is-baragraff (1)(a)(i) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys person perthnasol o Ogledd Iwerddon a fyddai, pe bai’r person hwnnw yn wladolyn o’r AEE neu’n wladolyn o’r AEE yn unig, yn weithiwr mudol o’r AEE neu’n berson hunangyflogedig o’r AEE.

(10Ar ôl paragraff 8 (personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall), mewnosoder—

8A.(1) Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â’r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(c)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth y mae Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(f)a oedd, mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (e) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (e).

(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac yr oedd ganddo’r hawl i breswylio’n barhaol, os yw’r person wedi mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac y mae’r person yn wladolyn ohoni neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn ohoni.

(3) At ddibenion is-baragraff (2), roedd gan berson yr hawl i breswylio’n barhaol os oedd ganddo hawl a gododd o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio’n barhaol yn y Deyrnas Unedig heb gyfyngiad.

(11Ym mhennawd paragraff 9 (gwladolion o’r UE), ar y diwedd, mewnosoder “etc.”.

(12Ar ôl paragraff 9 mewnosoder—

9A.(1) Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn wladolyn o’r UE;

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i); neu

(iii)yn aelod o deulu person perthnasol o Ogledd Iwerddon;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

Gwladolion o’r Deyrnas Unedig

9B.(1)  Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

(3) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

9BA.(1) Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol yn ddinesydd Gwyddelig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

9C.(1) Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol yn aelod o deulu person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

Personau sy’n preswylio yn Gibraltar

9D.(1) Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig a chanddo statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

(ii)yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu statws preswylydd yn Gibraltar a roddwyd gan Lywodraeth Gibraltar;

(iii)yn wladolyn o’r UE a chanddo hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE; neu

(iv)yn aelod o deulu gwladolyn o’r UE, pan fo gan yr aelod hwnnw o’r teulu hawl i breswylio yn Gibraltar sy’n codi o dan y cytundeb ymadael â’r UE;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

(13O flaen paragraff 10 mewnosoder y pennawd—

Gwladolion o’r UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd.

(14Ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

10A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol yn wladolyn o’r UE;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(15Ar ôl paragraff 11 (plant gwladolion Swisaidd), mewnosoder—

11A.  Person sydd â hawliau gwarchodedig—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol yn blentyn i wladolyn Swisaidd sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 18(2) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)mewn achos pan oedd preswylio arferol y person y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(16Ar ôl paragraff 12 (plant gweithwyr Twrcaidd), mewnosoder—

12A.  Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd (“T”), pan oedd T yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(b)a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn blentyn i T; a

(ii)yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

20 Tachwedd 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3037 (Cy. 303)) (“Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”). Mae’r diwygiadau yn cymryd effaith mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Y prif ddiwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw—

(a)gwneud newidiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

(b)gwneud newidiadau sy’n ymwneud â phersonau sydd â chaniatâd Calais neu bersonau penodol sy’n ddioddefwyr trais domestig neu gam-drin domestig neu sydd wedi cael profedigaeth;

(c)newid y dyddiad olaf i wneud cais i 28 Chwefror.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r diffiniadau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio’r darpariaethau sy’n ymwneud â chymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer categorïau cymhwystra newydd sy’n gymwys mewn perthynas â cheisiadau am gymorth gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chyrsiau mewn blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022. Mae’n cyfyngu categorïau cymhwystra penodol a oedd yn gymwys cyn 1 Medi 2022 i fyfyrwyr sy’n dod o fewn y categorïau hynny cyn 1 Medi 2022 ac sy’n ymgymryd â chwrs sy’n dechrau cyn 1 Medi 2022. Mae’r categorïau cymhwystra hynny yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chwrs o’r fath a’r cwrs cyntaf y caniateir i statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo iddo yn unol â Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau cyfatebol mewn perthynas â throsglwyddo cymhwystra myfyriwr cymwys.

Mae rheoliadau 7 i 10 yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau sy’n ymwneud â grantiau at gostau byw a chostau eraill, grantiau dibynyddion mewn oed a lwfans dysgu rhieni.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd, yn bennaf i fewnosod paragraffau cymhwystra newydd a diffiniadau cysylltiedig. Mae’r diwygiadau yn gymwys mewn perthynas—

Mae’r diwygiadau hefyd yn gwneud mân gywiriadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146(2)(a) a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(2). Diwygiwyd adran 22(2)(a) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(3)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adrannau 22(1)(a), 22(2)(a) a 22(2)(e) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adran (2)(a) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

Diffiniwyd yn adran 17(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(5)

1971 p. 77, mewnosodwyd adran 3ZA gan Ddeddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (p. 20).

(7)

O.S. 2020/1209, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1309.

(8)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr, etc.) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4; Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9; O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9.

(9)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77.