2021 Rhif 1306 (Cy. 335)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) (Dirymu) 2021 a deuant i rym ar y diwrnod y caiff Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 20213 ei phasio.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu2

Mae Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 20214 wedi eu dirymu.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (“Rheoliadau 2021”). Mae Rheoliadau 2021 yn pennu’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988. Bydd Deddf Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) 2021 yn darparu ar gyfer pwnc Rheoliadau 2021 yn eu lle.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.