NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i archebu a chymryd profion am y coronafeirws yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio, gan gynnwys “teithwyr rheoliad 2A”, sy’n cynnwys teithwyr sydd wedi eu brechu a theithwyr o dan 18 oed.

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn darparu profion PCR diwrnod 2 a gofynion ynysu mewn perthynas â “theithwyr rheoliad 2A”.

Mae rheoliad 14 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd o ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.