Diwygiadau i reoliad 6HB

8.—(1Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3Ym mharagraff (4)(b) yn lle “rheoliad 7” rhodder “rheoliadau 7 neu 8”.

(4Yn lle paragraff (5)(a), rhodder—

(a)sy’n brawf diwrnod 2,.