NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud fel rhan o gyfres o reoliadau sy’n gysylltiedig â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Mae chwe rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn a dehongli’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i gyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru benodi swyddogion gweithrediaeth, sef Prif Weithredwr, Prif Swyddog Cyllid a Swyddog Monitro. Mae’r Rhan hon hefyd yn darparu rhagor o fanylion ynghylch y swyddogaethau sydd i’w harfer gan bob un o’r deiliaid swyddi hyn.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff cyd-bwyllgorau corfforedig. Er enghraifft, mae’r Rhan hon yn diwygio’r diffiniad o “proper officer” yn Neddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hefyd yn cymhwyso darpariaethau yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 i gyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r rhain yn darparu bod cyfyngiadau gwleidyddol ar swyddi penodol mewn cyd-bwyllgor corfforedig fel sydd ar swyddi penodol mewn awdurdod lleol ac na chaniateir cyfethol deiliaid swyddi o’r fath mewn unrhyw awdurdod perthnasol yn aelodau o gyd-bwyllgor corfforedig.

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i gyd-bwyllgorau corfforedig wneud trefniadau i’w swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgorau, gan staff neu ar y cyd â chyd-bwyllgorau corfforedig eraill neu gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Caiff is-bwyllgor a benodir gan gyd-bwyllgor corfforedig fod ag aelodau nad ydynt hefyd yn aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Mae Rhan 5 yn darparu manylion ynghylch y modd y mae’n rhaid ymgymeryd â chyfarfodydd a thrafodion cyd-bwyllgorau corfforedig (ac unrhyw is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig). Er enghraifft gofynion o ran hysbysu a dogfennau a darpariaeth ynghylch lleoliad cyfarfodydd (a mynediad o bell atynt).

Mae Rhan 6 yn nodi diwygiadau amrywiol a chanlyniadol y mae angen eu gwneud i rywfaint o ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a’r darpariaethau eraill yn y Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â’r rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2021. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol pan wnaed y rheoliadau sefydlu hynny a gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.