- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig benodi prif weithredwr.
(2) Rhaid i brif weithredwr cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir ym mharagraff (3), a
(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyd-bwyllgor corfforedig yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.
(3) Y materion yw—
(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer ei wahanol swyddogaethau,
(b)trefniadau’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas ag—
(i)cynllunio ariannol,
(ii)rheoli asedau, a
(iii)rheoli risg,
(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyd-bwyllgor corfforedig er mwyn arfer ei swyddogaethau,
(d)trefniadaeth staff y cyd-bwyllgor corfforedig,
(e)penodi staff y cyd-bwyllgor corfforedig, ac
(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu.
(4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion paragraff (2)(b), rhaid i’r prif weithredwr drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at bob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(5) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ystyried adroddiad a wnaed o dan baragraff (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at yr aelodau am y tro cyntaf.
(6) Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan y rheoliad hwn.
(7) Nid yw rheoliad 13 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir ar gyd-bwyllgor corfforedig gan baragraff (5).
4.—(1) Ym Mesur 2011—
(a)wrth gymhwyso adran 142 (swyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau) i gyd-bwyllgor corfforedig, mae’r cyfeiriad at 1 Ebrill 2012 i’w ddarllen fel cyfeiriad at 1 Ebrill 2022;
(b)yn adran 143A(7) (swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr), yn y diffiniad o “prif weithredwr”, ar ôl “Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021” mewnosoder “neu brif weithredwr a benodir gan gyd-bwyllgor corfforedig”;
(c)yn adran 144 (awdurdodau perthnasol, aelodau etc.)—
(i)yn is-adran (2), o flaen paragraff (e) mewnosoder—
“(db)cyd-bwyllgor corfforedig;”;
(ii)yn is-adran (4) hepgorer “ac” ar ôl paragraff (b);
(iii)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (c) mewnosoder “, a” ac yna mewnosoder—
“(d)person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig a chanddo hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw;”;
(iv)yn is-adran (5), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “heblaw cyd-bwyllgor corfforedig”;
(v)yn is-adran (8), yn lle “(2)(e)” rhodder “(2)(db) neu (e)”.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn (ac felly wrth estyn adran 143A o Fesur 2011 i awdurdod perthnasol sy’n gyd-bwyllgor corfforedig), hyd nes y daw’r diwygiadau a wneir i adran 143A o Fesur 2011 gan baragraff 15 o Atodlen 5 i Ddeddf 2021 i rym, mae adran 143A i’w darllen fel pe bai’r diwygiadau hynny mewn grym.
5.—(1) Mae adran 151 o Ddeddf 1972 (dyletswydd awdurdod lleol i benodi swyddog â chyfrifoldeb am weinyddu ariannol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Daw’r testun presennol yn is-adran (1).
(3) Ar ôl yr is-adran honno mewnosoder —
“(2) This section applies to a corporate joint committee as it applies to a local authority.”
6.—(1) Mae Deddf 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 114 (swyddogaethau swyddog cyfrifol o ran adroddiadau), yn is-adran (3A)—
(a)ym mharagraff (a), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989” mewnosoder “or, in the case of a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive”;
(b)ym mharagraff (b), yn lle “that Act” rhodder “the Local Government and Housing Act 1989”.
(3) Yn adran 115 (dyletswyddau awdurdodau o ran adroddiadau), ar ôl is-adran (4A) mewnosoder—
“(4B) In the case of a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty under subsection (2).”
7.—(1) Mae adran 5 o Ddeddf 1989 (dynodi swyddog monitro ac adroddiadau ganddo) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) O flaen is-adran (1C) mewnosoder—
“(1BB) The officer designated under subsection (1)(a) above by a relevant authority which is a corporate joint committee may not be the authority’s chief executive.”
(3) Yn is-adran (3)(a), ar ôl “chief finance officer” mewnosoder “or, in the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, with the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive and with their chief finance officer”.
(4) Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—
“(5A) In the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, regulation 13 of the Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2021 (arrangements for the discharge of functions) does not apply to the duty imposed by virtue of subsection (5)(a).”
(5) Yn is-adran (8), yn y diffiniad o “relevant authority”, ar ôl “below” mewnosoder “, a corporate joint committee,”.
8.—(1) Rhaid i’r swyddog monitro a ddynodwyd gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 5 o Ddeddf 1989 ddarparu cefnogaeth a chyngor i—
(a)y cyd-bwyllgor corfforedig mewn perthynas â’i gyfarfodydd;
(b)unrhyw is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(c)pob aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl;
(d)pob person a benodir i is-bwyllgor i’r cyd-bwyllgor corfforedig wrth gyflawni ei rôl.
(2) Ond nid yw’r cyfeiriad at gyngor yn is-baragraffau (1)(c) a (d) yn cynnwys cyngor ynghylch a ddylid neu sut y dylid arfer swyddogaethau’r cyd-bwyllgor corfforedig, nac a ddylid bod wedi neu sut y dylid bod wedi eu harfer.
(3) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu i’r swyddog monitro y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y swyddog monitro, yn ddigonol i alluogi cyflawni swyddogaethau’r swyddog o dan y paragraff hwn.
(4) Caiff y swyddog monitro drefnu i’w swyddogaethau o dan y paragraff hwn gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: