Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau sefydlu.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
34.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—
“mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ”.
(3) Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;
(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)unrhyw aelod cyfetholedig.”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “Canolbarth” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;
(c)hepgorer paragraff (3);
(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.
(4) Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;
(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(5) Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;
(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(6) Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—
9.—(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu
(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.”
(7) Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).”
(8) Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog”.
(9) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.
(10) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
“(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,”.
(11) Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.”
(12) Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Canolbarth gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.”
(13) Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y Canolbarth rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.”
(14) Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.”
(15) Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).
(16) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a)yn nhestun Saesneg is-baragraff (1)(g), ar ôl “Mid” mewnosoder “Wales”;
(b)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;
(c)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—
“(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Canolbarth, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.”;
(d)hepgorer is-baragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 34 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
35.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Eryri” rhodder—
“mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ”.
(3) Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;
(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)unrhyw aelod cyfetholedig.”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “Gogledd” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;
(c)hepgorer paragraff (3);
(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.
(4) Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;
(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(5) Yn rheoliad 8 (aelod Eryri)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ni chaiff aelod Eryri weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Eryri hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Gogledd—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Eryri yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Eryri weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Eryri weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Eryri i weithredu.”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;
(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(6) Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—
9.—(1) Caiff CBC y Gogledd gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Gogledd (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Gogledd y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Gogledd o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Gogledd sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Eryri weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Gogledd, neu
(ii)y bydd CBC y Gogledd yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Gogledd.”
(7) Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).”
(8) Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Eryri”.
(9) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.
(10) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
“(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,”.
(11) Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.”
(12) Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i CBC y Gogledd sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Gogledd gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.”
(13) Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y Gogledd rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.”
(14) Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Gogledd yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.”
(15) Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).
(16) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;
(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—
“(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Gogledd, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.”;
(c)hepgorer is-baragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 35 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
36.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—
“mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ”.
(3) Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;
(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)unrhyw aelod cyfetholedig.”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “De-ddwyrain” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;
(c)hepgorer paragraff (3);
(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.
(4) Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;
(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(5) Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-ddwyrain—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;
(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(6) Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—
9.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-ddwyrain (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y De-ddwyrain y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-ddwyrain sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-ddwyrain, neu
(ii)y bydd CBC y De-ddwyrain yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-ddwyrain.”
(7) Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).”
(8) Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog”.
(9) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.
(10) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
“(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,”.
(11) Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.”
(12) Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-ddwyrain gyflawni ei swyddogaethau’n briodol. ”
(13) Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.”
(14) Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.”
(15) Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).
(16) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;
(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—
“(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-ddwyrain, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.”;
(c)hepgorer is-baragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 36 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
37.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—
“mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ”.
(3) Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (b) hepgorer “a”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (c) mewnosoder “, a”;
(iii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—
“(d)unrhyw aelod cyfetholedig.”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “De-orllewin” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2)”;
(c)hepgorer paragraff (3);
(d)ym mharagraff (4)—
(i)yn lle “ac”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “,”;
(ii)yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.
(4) Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;
(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(5) Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro)—
(a)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(3B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(3C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.”;
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;
(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”;
(iii)ar ôl “aelod Arfordir Penfro”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “(yn ôl y digwydd)”.
(6) Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—
9.—(1) Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu
(ii)y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.”
(7) Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).”
(8) Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “yr Awdurdod” rhodder “bob Awdurdod”;
(b)yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor, aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro”.
(9) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.
(10) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
“(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,”.
(11) Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.”
(12) Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i CBC y De-orllewin sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-orllewin gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.”
(13) Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y De-orllewin rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.”
(14) Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-orllewin yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.”
(15) Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).
(16) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;
(b)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—
“(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y De-orllewin, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.”;
(c)hepgorer is-baragraff (3).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 37 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
38. Yn adran 270 o Ddeddf 1972, yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o “Common Council” mewnosoder—
““corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 38 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
39. Yn adran 111 o Ddeddf 1988 (dehongli)—
(a)yn is-adran (2) (awdurdodau perthnasol), ar ôl paragraff (n) mewnosoder—
“(o)a corporate joint committee”;
(b)ar ôl is-adran (3C) mewnosoder—
“(3D) In this Part “corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 39 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
40. Yn adran 21 o Ddeddf 1989 (dehongli Rhan 1), yn is-adran (3), yn y lle priodol, mewnosoder—
““corporate joint committee” means a corporate joint committee established by regulations under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 40 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
41. Yn adran 175 o Fesur 2011 (dehongli), ar ôl y diffiniad o “awdurdod lleol” mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 41 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
42.—(1) Mae Deddf 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 171 (dehongli), yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o “awdurdod tân ac achub” mewnosoder—
“mae i “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yr un ystyr ag yn adran 68 o’r Ddeddf hon;”.
(3) Yn Atodlen 5—
(a)ym mharagraff 3—
(i)yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)with—
(i)in the case of a Welsh county council or county borough council, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive under section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;
(ii)in the case of a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive;
(iii)in any other case, the person who is for the time being designated as the head of the authority’s paid service under section 4 of the Local Government and Housing Act 1989;”.”
(ii)hepgorer is-baragraff (b);
(b)ym mharagraff 9, yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)yn lle is-adran (3)(a) rhodder—
“(a)in preparing a report under this section to consult so far as practicable with—
(i)in the case of a relevant authority which is the council of a county or county borough in Wales, the person who is for the time being the authority’s chief executive and with their chief finance officer;
(ii)in the case of a relevant authority which is a corporate joint committee, the person who is for the time being appointed as the authority’s chief executive and with their chief finance officer;
(iii)in the case of any other relevant authority, the person who is for the time being designated as the head of the authority’s paid service under section 4 above and with their chief finance officer;”;”
(c)ym mharagraff 17 (diwygiadau i adran 43 o Ddeddf 2011), yn is-baragraff (a), yn lle’r testun a fewnosodir rhodder—
“(aa)its chief executive appointed under—
(i)section 54 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (chief executive of council in Wales), or
(ii)regulations made under Part 5 of that Act (chief executive of a corporate joint committee).”
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 42 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
43.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 mae’r diffiniadau o “cyfranogwr cyfetholedig” ac “aelod” wedi eu hepgor.
(3) Yn rheoliad 3, lle y mae’n ymddangos yn y pennawd ac yng nghorff y rheoliad, yn lle “cyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau o is-bwyllgor”.
(4) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1—
(a)yn y pennawd, yn lle “a chyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “ac aelodau o is-bwyllgor”.
(b)yn is-baragraff (1)(a)(ii), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelod o is-bwyllgor”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 43 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: