RHAN 4Swyddogaethau

Cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill13.

(1)

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd yn cael ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff cyd-bwyllgor corfforedig drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan—

(a)

is-bwyllgor;

(b)

aelod o staff;

(c)

unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig arall;

(d)

unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(2)

Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan gyd-bwyllgor corfforedig o dan baragraff (1) yn atal y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(3)

Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor o dan baragraff (1)(a), caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny gael eu cyflawni gan aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig, onid yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi cyfarwyddo fel arall.

(4)

Ond nid yw unrhyw drefniant a wneir gan is-bwyllgor o dan baragraff (3) yn atal yr is-bwyllgor hwnnw rhag arfer y swyddogaethau y mae’r trefniant yn ymwneud â hwy.

(5)

Pan fo cyd-bwyllgor corfforedig wedi trefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu cyflawni o dan baragraff (1)(c) neu (d) yna, yn ddarostyngedig i delerau’r trefniant, caiff y corff sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni’r swyddogaethau hynny drefnu iddynt gael eu cyflawni gan bwyllgor neu is-bwyllgor i’r corff hwnnw neu gan aelod o staff y corff hwnnw.

(6)

Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth ddatganedig sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall, caiff dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig gyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd.

(7)

Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) cânt hefyd drefnu i aelod o staff gyflawni’r swyddogaethau hynny.

(8)

Pan fo dau neu ragor o gyd-bwyllgorau corfforedig wedi trefnu cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau ar y cyd o dan baragraff (6) mae unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—

(a)

y swyddogaethau hynny,

(b)

y cyd-bwyllgorau corfforedig sydd i’w cyflawni, neu

(c)

yr ardaloedd y maent i’w cyflawni mewn cysylltiad â hwy,

i’w ddehongli yn unol â pharagraff (9).

(9)

Rhaid darllen deddfiad y cyfeirir ato ym mharagraff (8) fel pe bai’n cynnwys pob addasiad sy’n angenrheidiol i alluogi cyflawni’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw—

(a)

gan y cyd-bwyllgorau corfforedig, a

(b)

mewn cysylltiad â’r ardaloedd,

y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (boed yn unol â threfniadau o dan baragraff (6) neu fel arall).

(10)

Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig yn cynnwys cyfeiriadau at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny, neu sy’n ffafriol i hynny neu’n gysylltiedig â hynny.

(11)

Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar weithrediad Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 197011.