Is-bwyllgorauLL+C
14.—(1) Caiff cyd-bwyllgor corfforedig benodi un neu ragor o is-bwyllgorau—
(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan reoliad 13 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021;
(b)i gynghori’r cyd-bwyllgor corfforedig ar unrhyw fater sy’n ymwneud â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau.
(2) Caiff is-bwyllgor a benodir o dan baragraff (1) gynnwys aelodau nad ydynt yn aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig, neu fod wedi ei gyfansoddi’n gyfan gwbl o aelodau o’r fath.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r rheoliad hwn ac unrhyw ddarpariaeth ddatganedig mewn unrhyw ddeddfiad arall, rhaid i swyddogaethau is-bwyllgor, nifer aelodau is-bwyllgor a chyfnod swydd pob aelod gael eu pennu gan y cyd-bwyllgor corfforedig.
(4) Rhaid nodi gweithdrefnau is-bwyllgor, gan gynnwys unrhyw weithdrefnau pleidleisio pan fo hynny’n briodol, yn rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 14 mewn grym ar 3.12.2021, gweler rhl. 1(2)