- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18.—(1) Rhaid i gopïau o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopïau o unrhyw adroddiad ar gyfer y cyfarfod—
(a)cael ei gyhoeddi gan y cyd-bwyllgor corfforedig—
(i)yn electronig, a
(ii)yn unol â pharagraffau (3) i (5), a
(b)parhau i fod ar gael yn electronig i aelodau’r cyhoedd hyd nes y bo’r cyfarfod wedi dod i ben (gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch mynediad at ddogfennau ar ôl cyfarfod CBC).
(2) Os gwêl swyddog priodol yn dda, caniateir hepgor o’r copïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1) adroddiad cyfan, neu unrhyw ran ohono, sy’n ymwneud yn unig ag eitemau y mae’n debygol, ym marn y swyddog, na fydd y cyfarfod yn agored i’r cyhoedd yn eu hystod.
(3) Rhaid i ddogfen y mae’n ofynnol ei chyhoeddi o dan baragraff (1) gael ei chyhoeddi o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, neu, os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnull ar rybudd byrrach, yna adeg ei gynnull.
(4) Pan ychwanegir eitem at yr agenda ar gyfer cyfarfod CBC yn unol â rheolau sefydlog, rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar yr adeg yr ychwanegir yr eitem, gyhoeddi—
(a)agenda ddiwygiedig, neu
(b)adendwm i’r agenda,
yn pennu’r eitem ychwanegol.
(5) Nid oes dim ym mharagraffau (3) a (4) yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi dogfen neu gopïau o agenda, eitem neu adroddiad hyd nes y bydd y ddogfen neu’r copïau ar gael i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig.
(6) Ni chaniateir ystyried eitem o fusnes mewn cyfarfod CBC oni bai naill ai—
(a)y cydymffurfiwyd â pharagraff (1) neu (4) mewn cysylltiad ag agenda sy’n cynnwys yr eitem, neu
(b)oherwydd amgylchiadau arbennig, y mae rhaid eu pennu yn y cofnodion, fod cadeirydd y cyfarfod o’r farn y dylid ystyried yr eitem yn y cyfarfod fel mater o frys.
(7) Pan fo adroddiad cyfan neu ran o adroddiad wedi ei hepgor o dan baragraff (2)—
(a)rhaid marcio “Nid i’w gyhoeddi” ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan, a
(b)os yw’r swyddog priodol wedi penderfynu bod y cyhoedd yn debygol o gael ei wahardd o’r cyfarfod yn rhinwedd rheoliad 16(6), rhaid datgan ar bob copi o’r adroddiad neu o’r rhan ddisgrifiad, o ran Atodlen 12A i Ddeddf 1972 fel y’i cymhwysir gan reoliad 26, o’r wybodaeth esempt y mae’n debygol y gwaherddir y cyhoedd yn ei rhinwedd yn ystod yr eitem y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(8) O ran cyfarfod CBC—
(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 16(2) iddo fod yn agored i’r cyhoedd yn ystod y trafodion neu ran ohonynt, a
(b)pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig,
rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig beri bod nifer rhesymol o gopïau o’r agenda ac o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod ar gael i’w defnyddio gan aelodau o’r cyhoedd sy’n bresennol yn y cyfarfod.
(9) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig, ar gais ac ar ôl i unrhyw dâl angenrheidiol am drawsyrru gael ei dalu, gyflenwi drwy ddulliau electronig er budd unrhyw sefydliadau cyfryngau newyddion—
(a)copi o’r agenda ar gyfer cyfarfod CBC a chopi o bob un o’r adroddiadau ar gyfer y cyfarfod,
(b)unrhyw ddatganiadau pellach neu fanylion pellach, os oes rhai, sy’n angenrheidiol i ddangos beth yw natur yr eitemau sydd wedi eu cynnwys yn yr agenda, ac
(c)os gwêl swyddog priodol yn dda yn achos unrhyw eitem, gopïau o unrhyw ddogfennau eraill a gyflenwyd i aelodau o’r cyd-bwyllgor corfforedig mewn cysylltiad â’r eitem.
(10) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a ddarperir o dan baragraff (8) neu (9) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â chopïau o adroddiadau a gyhoeddir o dan baragraff (1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: