Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 84(2)(a) a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(l) o’r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Awdurdodau Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2.—(1) Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (9), yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus”, ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod lleol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.
(3) Yn is-adran (10), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.30 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) er mwyn cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus” yn is-adran (9) o’r adran honno, fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (“y ddyletswydd bioamrywiaeth”). O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.
Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
2016 dccc 3. Diwygiwyd adran 6 gan baragraff 46(a)(i) a (ii) o Ran 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.