NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (dccc 3) er mwyn cynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “awdurdod cyhoeddus” yn is-adran (9) o’r adran honno, fel bod cyd-bwyllgorau corfforedig yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (“y ddyletswydd bioamrywiaeth”). O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig ystyried Cynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru wrth wneud penderfyniadau.
Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyrff a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) (“y Ddeddf”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o’r Ddeddf. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ